
Mae datganoli darlledu yn un o brif ymgyrchoedd Grŵp Dyfodol Digidol y Gymdeithas, ac mae'r sefyllfa bresennol wedi amlygu – yn fwy nag erioed – bwysigrwydd yr ymgyrch hwn.
Mae'n hanfodol fod gennym y grym yma yng Nghymru i benderfynu dros ddyfodol ein sianel Gymraeg a'n gorsafoedd radio lleol. Credwn y dylid datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu yn ei gyfanrwydd i Senedd Cymru, gan gynnwys y grym o reoleiddio’r holl sbectrwm darlledu.