Darlledu yng Nghymru
Yr achos dros bwerau
darlledu a chyfathrebu i Gymru
PAPUR TRAFOD
-
Cyflwyniad
2
Crynodeb
3
Darlledu yng Nghymru
4
Cyd-destun rhyngwladol
5
Camau tuag at ddatganoli
7
Barn y Gymdeithas
8
Endid Creu Cynnwys
9
Darlun enghreifftiol
10
Ariannu’r gyfundrefn
13
Cyllideb y gyfundrefn gyfryngol
15
Casgliadau
20
Atodiadau
21-23
cymdeithas.cymru
Cyflwyniad
Galwodd llyfryn polisi y Gymdeithas ‘Darlledu yng Nghymru’, a gyhoeddwyd ym 1970, am sefydlu tonfeddi radio Cymraeg a sianel deledu Cymraeg (Atodiad 1), a chymerodd hi dros ddegawd i gyflawni’r ddau nod. Yn ogystal, bu sefydlu sianel deledu Gymreig a gorsaf radio Gymreig, cyfrwng Saesneg, ymysg rhai o’n galwadau ym 1970.
Ond, dechreuodd yr ymgyrchu dros yr alwad am ‘Awdurdod Darlledu Annibynnol i Gymru’ gydag ‘awdurdod llwyr dros ddarlledu yng Nghymru’. Credwn ei bod hi’n amserol ail-ymweld â’r ystyriaethau hyn, gan hefyd ystyried pa gamau ychwanegol sydd angen eu hystyried wrth gofio bod camau mawrion eisoes wedi’u cymryd o ran technoleg yn ddiweddar. Mae’n werth nodi nad yw’r ddarpariaeth ddarlledu yn Gymraeg ar y radio na’r teledu wedi symud ymlaen llawer yn y deugain mlynedd diwethaf ac nad yw cylch gorchwyl S4C wedi datblygu braidd dim er gwaethaf y datblygiadau enfawr ar blatfformau darlledu eraill.
Nawr bod Senedd ddatganoledig gyda ni yng Nghymru, ceir cyfle i greu cyfraith gwlad a all fod o fudd uniongyrchol i’r Gymraeg, i’r economi ac i ddemocratiaeth.
Mae’r ddadl dros ddatganoli darlledu yn un gref iawn. Mae’r maes wedi ei ddatganoli mewn gwledydd datganoledig eraill: Gwlad y Basg a Chatalwnia ymysg eraill, ac mae’r pwerau wedi cael eu defnyddio er lles eu hieithoedd nhw.
Darganfu pwyllgor trawsbleidiol Comisiwn Silk, a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain ei hunan, ynghyd ag arolwg barn YouGov (2017), bod dros 60% o bobl Cymru o blaid datganoli darlledu yn ei gyfanrwydd i Gymru. Felly, mae cefnogaeth y cyhoedd yn ddiamheuol. Argymhellodd y Comisiwn ddatganoli i Gymru grant y Llywodraeth ar gyfer S4C yn unig, er i nifer o sefydliadau eraill ofyn iddynt fynd ymhellach. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Prydain wedi gwrthod gweithredu argymhelliad y Comisiwn i ddatganoli i Lywodraeth Cymru yr ychydig filiynau o bunnau’n unig sy’n mynd oddi wrth drethdalwyr i S4C.
Mae nifer cynyddol o gyrff a sefydliadau eraill yn y maes yn galw ar Lywodraeth Prydain i fynd ymhellach hefyd, ac yn gweld rhinwedd y ddadl dros ddatganoli darlledu.
Mae gennym gyfle yma i ddechrau cyfnod newydd ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru drwy ddatganoli’r maes i Gymru.
Crynodeb
Crynhown ein prif gynigion a sylwadau fel a ganlyn:
1. Dylid datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu a chyfathrebu yn eu cyfanrwydd i’r Senedd, sef grym rheoleiddio’r holl sbectrwm darlledu, gan gynnwys cyfrifoldeb dros y ffi drwydded, a dylid hefyd sefydlu fformiwla ariannol statudol ar gyfer ein sianeli a llwyfannau Cymraeg fydd yn cynyddu yn unol â chwyddiant, gan y byddai hynny’n cynnig sicrwydd ariannol hirdymor i’r darlledwyr a’r maes darlledu Cymraeg;
2. Rydym yn argymell codi ardoll ar gwmnïau darlledu a thelathrebu, a hefyd ar gorfforaethau sy’n gwerthu hysbysebion, megis Google a Facebook, er mwyn cyllido darlledu cyhoeddus yng Nghymru;
3. Dylid creu ‘Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol’ a fyddai’n rheoleiddio’r cyfryngau yng Nghymru yn lle Ofcom. Dylai aelodau’r Cyngor newydd gael eu penodi drwy broses ddemocrataidd yng Nghymru yn hytrach na gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn Llundain. Credwn y dylai fod gan y Cyngor newydd swyddogaethau a phwerau:
i. i normaleiddio’r Gymraeg ar bob llwyfan cyfryngol, o radio masnachol a theledu lleol i lwyfannau digidol ;
ii. i gryfhau’r cyfryngau cymunedol a chynnwys digidol Cymraeg;
iii. i gryfhau democratiaeth yng Nghymru drwy sicrhau hyfywedd a lluosogrwydd y cyfryngau.
4. Credwn, o dan gyfundrefn ddatganoledig, y dylai cylch gwaith ‘Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol’ gynnwys sefydlu ‘Endid Creu Cynnwys’ a fyddai’n cynhyrchu rhaglenni aml-blatfform gan gynnwys gwasanaeth newyddion aml-lwyfan, a bod yn berchen ar stiwdios ac isadeiledd darlledu. Gallai’r model newydd hwn wella telerau ac amodau gwaith yn y maes darlledu a chynnig ei adnoddau i arfogi pobl i greu ar lawr gwlad ac yn eu cymunedau. Bydd hefyd adnoddau ar gael am bris teg i gwmnïau cynhyrchu llai i gael eu defnyddio.
.
Darlledu a Chyfathrebu yng Nghymru
Pe bai Cymru’n gorfod sefydlu system darlledu a chyfathrebu o’r newydd yfory, beth fyddai’n ofynnol i ni ei wneud? Byddai angen sefydlu cyrff rheoleiddio a thechnolegol, gan gynnwys systemau i reoleiddio cynnwys ac i ddosrannu tonfeddi. Byddai angen strwythurau datblygu, rheoli, cynhyrchu a darlledu teledu Cymraeg, yn ogystal â theledu dwyieithog. Byddai hefyd angen systemau cyfatebol ar gyfer radio Cymraeg a dwyieithog, a hyn oll o fewn gweledigaeth ac egwyddorion darlledu cyhoeddus. Byddai angen creu llwyfannau digidol a sefydlu dulliau o gynnig a hyrwyddo cynnwys Cymraeg a Chymreig ar-lein. Byddai angen strwythurau a ffynonellau cyllido wrth gwrs. Byddai angen ystyried adeiladwaith a rhwydwaith darlledu a chyfathrebu cenedlaethol, lleol a chymunedol gan gynnwys rôl darlledu masnachol. Ymhlith y pryderon eraill i’w nodi yw nad oes digon o ddarlledu yng Nghymru sy’n annibynnol o’r BBC ar hyn o bryd (does dim newyddion teledu amgen yn y Gymraeg, er enghraifft).
Wrth gwrs, gan nad ydym yn sôn am sefydlu system darlledu a chyfathrebu o’r newydd, mae angen dyfeisio proses esblygol sydd yn trawsnewid y sefyllfa bresennol.
Mae’n bwysig nodi bod gan Ogledd yr Iwerddon eisoes sbectrwm sy’n cael ei rannu rhwng dwy gyfundrefn – yr un Prydeinig ac un y Weriniaeth.
Cyd-destun rhyngwladol
Dengys Gwlad y Basg a Chatalwnia ei bod yn gwbl bosib datganoli darlledu o fewn gwladwriaeth. Nid yw’r broses yn un gymhleth o bell ffordd. Rhoddir isod drosolwg o sianeli a gorsafoedd y gwledydd hynny, gan gynnwys manylion am iaith, cynnwys a chynulleidfaoedd y gwahanol blatfformau, ynghyd ag arsylwadau ar strwythurau a ffynonellau cyllid y cyrff sydd yn gyfrifol amdanynt.
1. Euskal Irrati Telebista (EiTB), Gwlad y Basg
Sefydlwyd Euskal Irrati Telebista (EiTB) yng Ngwlad y Basg ym 1982, yr un flwyddyn â lansio S4C yng Nghymru. Bryd hynny, lansiwyd un sianel deledu ac un orsaf radio. Erbyn hyn, mae EiTB yn gyfrifol am:
-
6 sianel deledu (ETB 1, ETB 2, Etb 3, ETB 4, ETB Sat, Canal Vasco)
-
5 orsaf radio (Euskadi Irratia, Radio Euskadi, Euskadi Gazeta, EiTB Irratia, Radio Vitoria)
Yn ogystal â sianeli a gorsafoedd sydd yn targedu cynulleidfaoedd cyffredinol (yn debyg i S4C a Radio Cymru efallai), gwelwn fod gwasanaethau penodol ar gyfer plant a phobl ifanc hefyd (Atodiad 2). Trwy’r rhain, gwasanaethir tua 700,000 o siaradwyr Basgeg y wladwriaeth a chymunedau ar wasgar yn Ewrop ac America Ladin. Mae platfformau EiTB yn darlledu yn y Fasgeg, y Sbaeneg ac yn ddwyieithog. Daw 86% o gyllid EiTB yn uniongyrchol o lywodraeth Gwlad y Basg, gyda’r gweddill yn cael ei chodi trwy hysbysebion. Mae’n werth nodi hefyd bod cwota 50% ar gyfer allbwn Basgeg ar radio masnachol yn ogystal.
2. Corporació Catalana de Mitjans Audiovisuals (CCMA), Catalwnia
Yn dilyn deddfwriaeth gan lywodraeth Catalwnia, sefydlwyd Corporació Catalana de Mitjans Audiovisuals (CCMA) ym 1983. Fe’i lansiwyd gydag un sianel deledu ac un orsaf radio. Heddiw, mae’r gorfforaeth yn gyfrifol am:
-
6 sianel deledu (TV3, E133, TV3CAT, 3/24, Super3, Esport3)
-
3 gorsaf radio (Catalunya Ràdio, Catalunya Música, Catalunya Informació, iCat FM)
Prif iaith pob un ohonynt yw’r Gatalaneg. Yn debyg i EiTB, ceir sianel a gorsaf radio yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc (Atodiad 3). Noder gorsafoedd iCat FM yn benodol, sef gwasanaeth aml-blatfform sy’n gwneud defnydd helaeth o’r rhyngrwyd a thechnoleg newydd. Er bod CCMA yn gwasanaethu cynulleidfa cymharol fwy na’r rheini yng Ngwlad y Basg ac yng Nghymru (poblogaeth Catalwnia ei hun yw 7.5miliwn, gyda 95% yn deall yr iaith a 73%, neu 5.7miliwn yn ei siarad), mae yna elfennau strwythurol i’w system darlledu datganoledig sydd yn haeddu ystyriaeth.
Yn wahanol i Wlad y Basg, rhannwyd cyfrifoldebau dros deledu a radio rhwng dau gorff TVC, sef Televisió de Catalunya a Catalunya Ràdio, gydag adrannau eraill o CCMA yn gyfrifol am gynorthwyo’r rhain trwy farchnata, cynllunio, datblygu a thechnoleg. Daw dros hanner (52%) o gyllid y gorfforaeth (h.y. CCMA) trwy gyllideb cyffredinol llywodraeth Catalwnia, a’r gweddill o hysbysebion, nawdd, nwyddau a gwerthiant cynyrchiadau gwreiddiol.
Yn y ddau achos uchod, gwelwn fod systemau darlledu, a lansiwyd yn yr un cyfnod ag S4C, wedi ehangu’n sylweddol dros y degawdau, tra bod y Gymraeg yn parhau i gael ei chyfyngu i un sianel ac un orsaf yn unig.
Credwn fod Cymru’n haeddu’r un fath o ddarpariaeth â’r hyn sy’n bodoli yng ngwladwriaethau eraill y byd.
Camau tuag at ddatganoli
Wrth ystyried y broses ddeddfwriaethol, y man cychwyn fydd dileu’r eithriad ym Mesur Cymru sy’n cadw’r pwerau dros ddarlledu yn ôl. Er na fydd hyn o reidrwydd yn newid pethau dros nos, byddai gan Senedd Cymru yr hawl i ddeddfu yn y maes darlledu. Mae’r broses dechnegol yn fwy cymhleth o ran dosrannu tonfeddi, addasu strwythurau cynhyrchu a chreu system cyllido (e.e. ffi drwydded Gymreig) ymhlith pethau eraill. Awgrymir datganoli fesul cam, a hynny gan ddechrau gyda rheoleiddio.
Felly, mae blaenoriaethau tymor byr o ran datganoli yn cynnwys:
-
Grymoedd i ddeddfu dros reoleiddio’r holl sbectrwm darlledu er mwyn galluogi sefydlu cyfundrefn reoleiddio i Gymru;
-
Ffi’r drwydded a grymoedd i godi trethi er mwyn ariannu darlledu cyhoeddus;
-
Grymoedd dros radio masnachol, cymunedol a theledu lleol
Dylid nodi y bydd datganoli grym deddfwriaethol yn y meysydd hyn yn golygu y gall Senedd ddatganoledig Cymru benderfynu, fel sy’n bosibl ym mhob maes datganoledig, cadw’r gyfundrefn ddarlledu’n union fel ag y mae yn y lle cyntaf. Byddai datganoli felly yn caniatáu newidiadau esblygol i’r system.
Barn y Gymdeithas
Mae Ofcom wedi methu â gwasanaethu Cymru a’r Gymraeg, ac yn parhau i fethu. Credwn fod angen corff rheoleiddio annibynnol i Gymru, a hynny heb unrhyw ymyrraeth fasnachol na gwleidyddol. Dylid creu ‘Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol’ gyda dyletswydd statudol a fydd yn gyfrifol am reoleiddio darlledu yng Nghymru, yn lle Ofcom.
Byddai’r corff yn blaenoriaethu’r Gymraeg gyda chylch gwaith, dyletswyddau a grymoedd i gynnwys hyrwyddo a normaleiddio’r Gymraeg ar bob llwyfan cyfryngol (gan gynnwys Netflix, YouTube ac Amazon Prime, er enghraifft), gyda phwerau a dyletswyddau ychwanegol i osod cwotâu ar radio masnachol a theledu lleol o ran y ganran o’u darlledu sydd yn Gymraeg.
Byddai gan y Cyngor ddyletswydd dros alluogi cyfryngau cymunedol, ac yn benodol rhai Cymraeg. Er mwyn sicrhau lluosogrwydd ac ystod o leisiau amgen, mae’n bosib y bydd gan y cyngor reolaeth dros ‘gronfa cynnwys cymunedol’ a hynny i alluogi cyfryngau a phlatfformau lleol er mwyn creu system darlledu o’r gwreiddiau i fyny. Mae cyfryngau cymunedol wedi profi’n ffordd effeithiol iawn o gyfoethogi’r tirlun cyfryngol yng Gwlad y Basg a Chatalwnia ac o gynyddu cyfleoedd siaradwyr i ddefnyddio’r iaith.
Mae Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol eisoes ar waith yng Nghymru yn dilyn symudiad sifil i ddechrau unioni diffygion y maes cyfathrebu yng Nghymru. Deallwn fod unigolion hynod ddeallus yn y maes ar y Bwrdd hwn a’u bod yn dechrau edrych ar reoliadau addas i Gymru.
Endid Creu Cynnwys
Credwn y dylai Endid Creu Cynnwys fod yn berchen ar stiwdios ac isadeiledd cynhyrchu. Byddai’r adnoddau hyn wedi’u lleoli ar draws Cymru ac yn agored i gwmnïau cynhyrchu llai eu maint, a chymunedau, gael eu defnyddio. Byddai hyn yn hwb i’r diwydiannau creadigol ac yn hwb economaidd ac ieithyddol ar draws Cymru.
Byddai’r Endid hwn hefyd yn arfogi ac yn galluogi unigolion i greu cynnwys ar-lein organig a gwreiddiol yn eu cymunedau, ar gyfer eu cymunedau.
Sylweddolwn y bydd costau ychwanegol i’r datblygiadau hyn, fel y manylir ymhellach yn y ddogfen hon.
Darlun enghreifftiol
Buddion y gyfundrefn ddatganoledig ar gyfer Cymru a’r Gymraeg
Er mwyn creu cyfundrefn ddarlledu y mae Cymru yn ei haeddu, credwn y dylsem anelu at system newydd uchelgeisiol. Cynigir isod ddarlun enghreifftiol o un system ymhlith nifer o bosibiliadau. Rydym yn cydnabod, wrth gwrs, yr angen difrifol i ystyried opsiynau newydd ac amgen i ariannu system o’r fath ac amlinellir rhai o’r argymhellion ar sut i wneud hynny yn yr adran nesaf. O dan gyfundrefn ddatganoledig byddai Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol yn gyfrifol am sicrhau darpariaeth radio, teledu a gwasanaethau ar-lein gan gynnwys rheoliadau yn ymwneud â mynediad i’r we.
-
3 sianel deledu Gymraeg (daearol ac ar-lein) – Sianel 1 (S1), Sianel 2 (S2), Sianel 3 (S3)1
-
3 gorsaf radio Gymraeg (FM/AM, digidol ac ar-lein) – Radio 1 (R1), Radio 2 (R2), Radio 3 (R3)2
-
Gwasanaeth newyddion aml-blatfform Cymraeg a gynhyrchir yn fewnol – Newyddion Cymru
-
Cynnig cefnogaeth i fentrau cyfryngau lleol a chymunedol sydd yn cynhyrchu cynnwys Cymraeg
Byddai nifer o’r gwasanaethau hyn yn rhai heb hysbysebion ac yn targedu gwahanol grwpiau demograffeg a grwpiau diddordeb. Wrth edrych eto ar esiamplau Gwlad y Basg a Chatalwnia, yn ogystal â’u prif sianeli cyffredinol, ceir hefyd sianeli i bobl ifanc/plant, chwaraeon a newyddion. Gallai system ddarlledu newydd edrych rhywbeth fel hyn:
S1 – sianel gyffredinol
S2 – sianel i blant (bore/prynhawn) a phobl ifanc (prynhawn hwyr/nos)
S3 – sianel newyddion, yn seiliedig ar rwydwaith gymunedol
R1 – gorsaf gyffredinol (24 awr y dydd)
R2 – gorsaf i bobl ifanc a cherddoriaeth gyfoes
R3 – gorsaf newyddion (24 awr), yn seiliedig ar rwydwaith gymunedol
Mae lluosogrwydd ac amrywiaeth o ran darparwyr yn y maes newyddion yn hanfodol i ddemocratiaeth iach yng Nghymru. Ar hyn o bryd dim ond y BBC sydd yn cael cynhyrchu rhaglenni newyddion Cymraeg ar gyfer teledu.
Gallasai S3 a R3 fod yn seiliedig ar rwydwaith cymunedol, gan fanteisio a chefnogi endidau cyfryngau cymunedol i ddarlledu ar lwyfan genedlaethol yn ogystal ag un lleol.
Byddai cylch gorchwyl y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol yn esgor ar dwf yn y cyfryngau cymunedol a chynnwys digidol Cymraeg. Byddai’n diogelu ac ehangu radio a theledu cymunedol Cymraeg, gan ffafrio’r darpariaethau hynny yn lle cyfundrefn Ofcom sydd wedi arwain at gwmnïau mawrion yn cwtogi ar gynnwys Cymraeg a Chymreig. Byddai’r Cyngor hefyd yn sicrhau nad yw monopolïau presennol yn parhau gydag ychydig o gwmnïau cynhyrchu a darparwyr Cymraeg, trwy ddosrannu gwaith a chytundebau yn ehangach i gynnwys cwmnïau a chyrff llai, newydd, arbrofol ac arloesol.
Dengys y diagram uchod y byddai’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol hefyd yn gyfrifol am sianeli a gorsafoedd dwyieithog newydd:
-
1 sianel deledu ddwyieithog Gymreig (S4)
-
1 orsaf radio ddwyieithog Gymreig (R4)
-
1 gwasanaeth dwyieithog ar-lein Cymreig
Yn ogystal, bydd gan y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol:
-
Grym i reoli cwmnïau megis YouTube, Netflix, Google, Apple er mwyn sicrhau blaenoriaethu cynnwys o bob math yn Gymraeg, gan gynnwys fideo, rhaglenni a ffilm, e.e. ystyried creu YouTube Cymru, ar wahân i ‘YouTube GB’
Mae’n bwysig cofio y byddai pobl Cymru yn parhau i gael mynediad at gyfryngau Saesneg o weddill ynysoedd Prydain a’r byd yn ogystal â’r darlledu cynhenid Cymraeg a dwyieithog ychwanegol. Ni fydd amhariad ar fwynhad cynulleidfaoedd Cymreig o allbwn ITV neu’r BBC, gan gynnwys rhaglenni poblogaidd. Ond, byddai rheoleiddio ym maes amlygrwydd sianeli, er mwyn sicrhau amlygrwydd pennaf i’r rhaglenni Cymraeg a Chymreig ar bob llwyfan sy’n cyrraedd cynulleidfaoedd yng Nghymru.
Rydym yn argymell system sydd yn cynyddu nifer y platfformau cyfryngol sydd ar gael i bobl Cymru. Yn yr adran isod, esbonnir sut y bydd system debyg i hyn nid yn unig yn amddiffyn amodau gwaith a chyflogau gweithwyr y sector, ond yn wir yn eu cynyddu. Yn y tymor byr, trwy adfer cyllideb S4C (i’r hyn yr oedd cyn i’r gwasanaeth gael ei roi yn nwylo’r BBC), trwy ddatganoli’r ffi drwydded a chodi ardoll ar gwmnïau mawrion, dangosir sut y bydd hi’n bosib ariannu’r fath system er lles pobl Cymru, gweithwyr y diwydiant a chenhedloedd y dyfodol.
Ariannu’r gyfundrefn
Yn 2015, cyhoeddodd y Gymdeithas bapur ynglŷn ag ariannu darlledu Cymraeg, gan amlinellu opsiynau amgen ar gyfer ariannu darlledu cyhoeddus, gwasanaeth aml-blatfform newydd, ac S4C yn benodol32. Rydym wedi datblygu’r gwaith hwnnw ymhellach ar gyfer y papur hwn gan ddatblygu amlinelliad sy’n dangos sut y gallai Cymru ariannu cyfundrefn ddarlledu ddatganoledig.
Ymddengys ei bod yn bosib ystyried sawl un o’r argymhellion hynny yng nghyd-destun ehangach datganoli darlledu yn ei gyfanrwydd.
-
Ariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru
-
Datganoli’r ffi drwydded
-
Ardoll ar wasanaethau, rhyngrwyd, cwmnïau telathrebu, hysbysebion a/neu’r sector preifat
Petai corfforaeth darlledu Cymraeg yn goruchwylio teledu a radio masnachol, yn ogystal â sianeli a gorsafoedd darlledu cyhoeddus, byddai modd codi swm sylweddol ychwanegol wrth werthu gofod hysbysebu ar y platfformau hynny. Fel yng Ngwlad y Basg a Chatalwnia, mae’n debyg mai cyfuniad o ffynonellau ariannol fyddai’r datrysiad gorau. Lansiodd y BBC sianel deledu newydd i’r Alban fis Chwefror 2019, a hynny gyda chyllid o tua £30 miliwn, sef yr un swm a dderbyniwyd yn flynyddol gan BBC43. Gwelwn, felly, bod y symiau ar gyfer sianeli newydd, ychwanegol (h.y. rheini sy’n ategu’r prif sianel cyffredinol) yn gymharol llai oherwydd oriau darlledu gostyngol, nifer o ail-ddarllediadau, a chostau llai ar gyfer cyd-gynyrchiadau a rhaglenni a ‘brynir i mewn’.
Ariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru
Yn debyg i’r systemau Basgeg a Chatalaneg, gallai cyfran statudol o gyllid corfforaeth ddarlledu Cymraeg ddatganoledig ddod yn uniongyrchol o Lywodraeth Cymru. Yn 2014, argymhellodd Comisiwn Silk y dylai’r cyfrifoldeb dros ariannu S4C symud o Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i Lywodraeth Cymru yn ogystal â newidiadau strwythurol eraill. Fodd bynnag, yn ddelfrydol, ac er mwyn sicrhau bod yr arbenigedd a’r gallu yng Nghymru i wneud y penderfyniadau cywir dros ddyfodol darlledu, byddai grymoedd ariannu a deddfu dros y cyfryngau yn cael eu trosglwyddo i’r Senedd yng Nghymru. Dim ond datganoli llawn fyddai’n caniatáu i bobl Cymru lunio cyfundrefn sy’n addas iddyn nhw. Credwn y dylai Senedd Cymru wedyn sefydlu ‘Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol’ fel y corff rheoleiddio cenedlaethol yn y lle cyntaf er mwyn diogelu annibyniaeth darlledwyr cyhoeddus datganoledig.
Datganoli ffi’r drwydded
Byddai sicrhau ffi drwydded Gymreig yng Nghymru yn gallu cyfrannu at ariannu goruchwyliwr darlledu haeddiannol ar gyfer y wlad er mwyn pennu pwy fyddai’n berchen ar fastiau a sut caent eu defnyddio. Byddai hefyd yn sefydlu rheoleiddio annibynnol ar y sector yng Nghymru er mwyn penderfynu faint o newyddion, rhaglenni a cherddoriaeth Cymraeg a Chymreig y byddai ar gael – gan hefyd rhoi mwy o sicrwydd i ddarlledu cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn sylweddoli y byddai angen cyfnod o amser er mwyn sefydlu cyfundrefn ar wahân i Gymru.
Wrth i ffi’r drwydded ar lefel Brydeinig ddod o dan fygythiad, byddai’n synhwyrol i Lywodraeth Cymru gomisiynu ymchwil ar gostau ac ymarferoldeb sefydlu’r gyfundrefn Gymreig.
Ardoll ar wasanaethau, rhyngrwyd, cwmnïau telathrebu, hysbysebion a/neu’r sector preifat
Mae mwyfwy o gefnogaeth i’r syniad o gasglu ardollau er mwyn ariannu darlledu a chyfathrebu cyhoeddus. Yn ein papur ‘Ariannu Darlledu Cymraeg’, dangoswyd bod trosiant ac elw’r cwmnïau mawrion, megis TalkTalk, EE, BSkyB a Google, wedi parhau i gynyddu’n sylweddol er gwaethaf y dirwasgiad, tra bod toriadau enfawr i ddarlledu cyhoeddus. Dangoswyd hefyd y byddai ardoll o 1% yn unig ar drosiant ar incwm rai o’r cwmnïau hyn (yn seiliedig ar ffigyrau 2013) yn codi dros £150 miliwn yn flynyddol ar lefel Brydeinig. Trwy ymestyn yr ardoll i gwmnïau mawrion eraill, megis Facebook, Vodafone a Virgin Media, gellir codi swm sylweddol uwch er mwyn ariannu darlledu cyhoeddus ar draws gwledydd Prydain, gyda chyfran deg ohono yn mynd yn uniongyrchol at gorfforaeth darlledu Cymraeg a gwasanaethau presennol a newydd.
Ymysg materion eraill, bydd angen dileu’r eithriad i ddeddfu ar ddarlledu sydd ym Mesur Cymru. Yn ogystal â phwerau dros ffi’r drwydded, bydd angen ymestyn yr hawl bresennol sydd gan Senedd Cymru i godi trethi newydd er mwyn iddynt ystyried codi ardoll newydd ar ddarlledwyr preifat ac eraill.
Cyllideb y gyfundrefn gyfryngol
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi creu cyllideb ddrafft sydd yn seiliedig ar y dystiolaeth gyhoeddus sydd ar gael o’r maes, ymchwil cychwynnol, ac adborth a dderbyniwyd i fersiynau blaenorol y ddogfen hon. Hyd y gwyddom, dyma’r tro cyntaf i ffigyrau pendant gael eu gosod i geisio creu cyllideb ar gyfer darlledu datganoledig yng Nghymru.
Mae sawl ffordd bosibl o lunio’r gyllideb sydd gan Gymru i’w gwario ar ei chyfundrefn ddatganoledig.
Nid oedd modd canfod ffynhonnell ddibynadwy ar gyfer Cymru ym mhob achos. Wrth gwrs bydd modd cynnal ymchwil sydd yn ymateb i anghenion cyfryngol yng Nghymru o dan y drefn ddatganoledig. Yn y cyfamser mae’n rhaid cyflwyno’r achos ar y data gorau sydd ar gael a cheisio cyfrif amcangyfrifon.
Mae poblogaeth Cymru yn 4.72% o boblogaeth tiriogaethau’r Deyrnas Gyfunol yn ôl amcangyfrifon poblogaeth Tachwedd 20194. Mae’r fframwaith cyllidol a gytunwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain15 yn Rhagfyr 2016 yn cydnabod anghenion uwch Cymru o ran gwariant cyhoeddus. Mae’r fframwaith yn gwarantu Cymru 115% o lefel gwariant y pen yn Lloegr ar feysydd datganoledig.
Incwm: ffi drwydded
Yn ôl cyfrifon y BBC, yn 2019 mae'r incwm o’r ffi drwydded (£150.50 fesul cartref) yng Nghymru oddeutu £184 miliwn y flwyddyn.
Eitem |
Incwm |
Ffioedd Trwydded Teledu Cartrefi a Busnesau yng Nghymru |
£184,000,0006 |
Mae'n bwysig nodi bod cwestiynau tymor byr a hir dymor am refeniw'r ffi drwydded yn sgil cyhoeddiadau gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol a'r newidiadau amlwg i batrymau gwylio a derbyn y cyfryngau ynghyd â'r farchnad darlledu a chyfathrebu. Wrth reswm felly, mae angen ystyried ffyrdd eraill o ariannu darlledu cyhoeddus a newydduriadaeth.
Incwm: ardoll
Mae o leiaf tri chategori o fusnes anferth sydd yn dominyddu marchnadoedd cyfryngol ac wedi mwynhau ffafr y wladwriaeth o ran trethu a pholisi cyhoeddus.107
Rydym am ddefnyddio canran Cymru o boblogaeth y Deyrnas Gyfunol (4.72%) eto fel sail i gyfrifon gan nad yw’r cwmnïau na chorfforaethau yn cyhoeddi ffigyrau am Gymru. Felly petai ardoll o 4% ar werthiannau’r cwmnïau yn cael ei chodi er mwyn ariannu cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn y DG, y ganran o incwm fyddai yn ddyledus i bobl Cymru fyddai 0.0472% o'r ardoll.
Er mwyn cydnabod gwir faint y busnesau a sicrhau tegwch i gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, byddai’r ardoll yn perthyn i werthiannau (yn yr un modd â threth ar werth), yn hytrach nag ‘elw’ a ddatgenir gan y cwmnïau.
Cwmnïau telathrebu: band llydan/rhyngrwyd, llinell tir, ffôn symudol (ardoll ar werthiannau)
Mae ffigyrau Ofcom am werthiannau yn y marchnadoedd amrywiol hyn yn cynnwys sawl cwmni adnabyddus.8
Mae gwerthiannau o £3.75b yn y marchnadoedd hyn ar draws tiriogaethau’r DG.9 Petai ardoll o 4% ar y cyfanswm byddai hyn yn arwain at swm o oddeutu £7,080,000 i Gymru.
Cwmnïau teledu masnachol (hysbysebion a thanysgrifiadau)
Prif ffynonellau incwm teledu masnachol fel Sky ac ITV ydy hysbysebion (£5.27b o werthiannau bob blwyddyn10) a thanysgrifiadau (£6.12b11). Felly, ar ardoll o 4%, £9,949,760 a £11,554,560 fyddai’r cyfansymiau sydd yn ddyledus i Gymru.
Cwmnïau cyfryngol ar-lein
Facebook a Google yw’r ddau brif enghraifft o gwmnïau ar-lein sydd yn gwneud incwm trwy hysbysebion ar gefn cynnwys trydydd parti. Maent yn cystadlu gydag endidau cyfryngol cyhoeddus heb gynhyrchu unrhyw gynnwys Cymraeg na Chymreig o sylwedd eu hunain. Ar yr un pryd, maent yn dosbarthu cynnwys heb fawr o ystyriaeth o safonau newyddiadurol a darlledu proffesiynol o ran cywirdeb a dibynadwyaeth.
O ran cyfanswm y gwariant ar hysbysebion digidol - £11.6biliwn yn 2017 - £21,900,800 fyddai cyfran Cymru o’r ardoll o 4%, ffigwr sy’n siŵr o gynyddu yn y dyfodol.12
Eitem |
Incwm |
Cwmnïau telathrebu: band llydan/rhyngrwyd, llinell tir, ffôn symudol |
£7,080,000 |
Cwmnïau teledu masnachol (hysbysebion) |
£9,949,760 |
Cwmnïau teledu masnachol (tanysgrifiadau) |
£11,554,560 |
Cwmnïau cyfryngol ar-lein |
£21,900,800 |
Cyfanswm: |
£50,485,120 |
Y broses o ddatganoli pwerau i godi'r ardollau
Mae Deddf Cymru 20143 yn sefydlu'r hawl i Lywodraeth Cymru wneud cais i Lywodraeth y DG greu trethi datganoledig newydd. Fodd bynnag, oherwydd cymhlethdod y broses, mae modd dadlau y byddai'n haws gyflwyno'r pwerau trethu ychwanegol drwy ddeddfwriaeth benodol am ddatganoli pwerau darlledu a chyfathrebu.
Incwm: trosglwyddiadau o Lywodraeth Prydain
Mae rhywfaint yn cael ei wario gan Lywodraeth San Steffan ar hyn o bryd y byddai’n rhesymol disgwyl iddo gael ei drosglwyddo i awdurdodau yng Nghymru. Byddai’r incwm ar sail trosglwyddiadau Barnett fel a ganlyn:
Eitem |
Incwm |
Trosglwyddo grant S4C Llywodraeth Prydain i Lywodraeth Cymru13 |
£6,700,000 |
Canran Cymru o ffioedd darlledu a ffioedd sbectrwm Ofcom (amcangyfrif )14 |
£18,360,800 |
Trosglwyddiad am wariant Prydeinig Adran Ddiwylliant Llywodraeth DG15 |
£1,000,000 |
Trosglwyddiad am wariant Llywodraeth Prydain ar y World Service16 |
£4,122,500 |
Trosglwyddiad am gostau gweinyddol Adran Ddiwylliant Llywodraeth DG17 |
£2,716,000 |
Cyfanswm: |
£32,899,300 |
Gwariant18
Dyma grynodeb o’r gwariant blynyddol o dan ein system ddatganoledig enghreifftiol:
Gwariant |
Cyfanswm cyllideb |
Nodiadau |
Llwyfan |
|
|
Sianel 1 |
£100,000,000 |
Prif sianel deledu Gymraeg. Cyllideb S4C yn 2009/10 |
Sianel 2 |
£30,000,000 |
Ail sianel deledu Gymraeg. Cost yn seiliedig ar gostau BBC 4 neu BBC Scotland |
Sianel 3 |
£16,000,000 |
Trydedd sianel deledu Gymraeg. Cost tebyg i'r hen BBC 3. Bydd endidau cyfryngau cymunedol yn cyfrannu at allbwn y sianel |
Sianel 4 |
£30,000,000 |
Sianel deledu ddwyieithog. Byddai gwerth y gyllideb go iawn tua £43 miliwn oherwydd gwerth prynu rhaglenni i mewn |
Radio 1 |
£14,000,000 |
Radio ac ar-lein yn Gymraeg |
Radio 2 |
£3,000,000 |
Ail orsaf radio Gymraeg arall ac ar-lein |
Radio 3 (rhwydwaith cymunedol) |
£3,000,000 |
Trydedd orsaf radio Gymraeg. Bydd endidau cyfryngau cymunedol yn cyfrannu at allbwn yr orsaf. |
R4 |
£15,000,000 |
Gorsaf radio ddwyieithog |
Cronfa Cynnwys Cymunedol Ar-lein |
£9,000,000 |
Mentrau/cynnwys ar-lein |
Costau eraill |
|
|
Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol19 (rheoleiddio)
|
£5,868,500 |
Cyllideb Ofcom DG yw £121 miliwn yn 2017/18. |
Isadeiledd technegol: ffioedd a chostau darparwyr technegol, costau darlledu a dosbarthu aml-lwyfan, ayyb20 |
£25,000,000 |
… |
Cost pwrcasu hawliau rhaglenni amrywiol |
£13,230,000 |
Yn seiliedig ar gost y pen y bu Iwerddon yn ei dalu ar gyfer rhaglenni’r BBC |
Costau gweinyddol ychwanegol Llywodraeth Cymru |
£3,000,000 |
Costau cynnal Adran Ddarlledu a Chyfathebu o fewn Llywodraeth Cymru |
Cyfanswm |
£267,098,500 |
|
Balans
CYFANSWM Y GWARIANT |
£267,098,500 |
CYFANSWM YR INCWM |
£267,384,420 |
BALANS |
£285,920 (gwarged) |
Cynigiwn yr uchod fel ymgais gwirioneddol i ddangos sut y gallai cyfundrefn ddarlledu ddatganoledig weithio. Yn anochel, mae ansicrwydd ynghylch rhai o’r ffigyrau gan nad yw’r gyfundrefn wedi ei datganoli eto a chan nad yw ffigyrau ar gael ar lefel Gymreig. Felly, byddem yn croesawu sylwadau ar y dadansoddiad uchod fel rhan o drafodaeth agored ar faterion darlledu.
Fodd bynnag, credwn ei bod yn wir dweud y byddai datganoli darlledu yn hwb enfawr i ddarlledu a democratiaeth Cymru gyda mwy o arian yn cael ei wario ar ddarlledu yng Nghymru nag sydd heddiw. Yn ogystal â hynny, cynhyrchid yr holl raglenni darlledu cyhoeddus o bersbectifau Cymru felly byddent yn adlewyrchu dyheadau pobl Cymru.
Casgliadau
Credwn fod datganoli darlledu a chyfathrebu yn cynnig cyfle am gyfnod newydd i’r Gymraeg ynghyd â bywiogi ein democratiaeth a’n holl gymunedau yng Nghymru. Drwy ddatganoli’r cyfrifoldeb i Gymru, byddai modd creu ‘Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol’ sef rheoleiddiwr ar gyfer yr holl sbectrwm a fyddai’n galluogi ehangu a normaleiddio’r Gymraeg ar bob llwyfan.
Rydym yn hyderus bod modd i Gymru, yn sgil datganoli darlledu ehangu’r ddarpariaeth i gynnal 3 sianel deledu Gymraeg, 3 gorsaf radio Gymraeg a sawl llwyfan ar-lein ynghyd â sianeli Cymreig dwyieithog. Yn ogystal â hyn gellir sicrhau mynediad i bawb i’r we i gael mynediad i wasanaethau ac yn ei gwneud hi’n bosibl gwneud busnes ym mhob cwr o Gymru. Byddai’r weledigaeth leol a chymunedol yn ganolog i hyn ac ni fydd y diwydiant wedi’i ganoli yn ne ddwyrain Cymru. Yn wir, bydd y buddsoddiad mewn darlledu yn llawer uwch nag y mae heddiw – dyna’r budd a ddaw o ganlyniad i ddatganoli. Yn lle bod Cymru yn gorfod ceisio perswadio darlledwyr Prydeinig i wario ein harian ein hunain yng Nghymru, bydd sofraniaeth gan bobl Cymru i sicrhau bod y cyfryngau’n wirioneddol gwrdd ag anghenion ein gwlad.
Bydd y datblygiadau yn hwb i’r Gymraeg a diwylliannau Cymru ym mhob cymuned, drwy sicrhau bod cynnwys Cymraeg wedi ei normaleiddio ar draws pob llwyfan. Drwy wneud y Gymraeg yn iaith ddiofyn ein cyfryngau, y gobaith yw y bydd defnydd o’r iaith yn cynyddu a bydd modd i bobl, o bob cefndir, gael byw eu bywydau yn Gymraeg. Bydd yn sicrhau telerau ac amodau gwell i weithwyr ynghyd â chreu a dosbarthiad cyfoeth yn llawer iawn gwell ledled y wlad.
Yn ogystal, bydd yn hwb i ddemocratiaeth gan sicrhau bod sylw a chraffu cryfach ar ein prosesau democrataidd. Yn wir, heb ddatganoli darlledu, credwn fod diffyg dealltwriaeth y cyhoedd o’n democratiaeth yn broblem gynyddol a chynddrwg fel y gallai beryglu bodolaeth a phwerau ein Senedd.
Rydym wedi amlinellu cynigion manwl yn y papur hwn, ond yn y pendraw swyddogaeth Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill fydd paratoi’r manylion er mwyn datganoli’r maes. Fodd bynnag, mae’r brif egwyddor yn ddiamheuol: dylai penderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud yn Nghymru.
Grŵp Digidol, Cymdeithas yr Iaith
Rhagfyr 2019
#DatganoliDarlledu
post@cymdeithas.cymru
Atodiad 1:
Llyfryn Polisi ‘Darlledu yng Nghymru’ (1970) Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Atodiad 2: Gwlad y Basg – Sianeli a Gorsafoedd Euskal Irrati Telebista (EiTB))
TELEDU |
Lansiwyd |
Iaith |
Cynnwys |
Cynulleidfa |
ETB 1 |
1983 |
Basgeg |
Newyddion, adloniant, rhaglenni dogfen, chwaraeon, rhaglenni pobl ifanc, rhaglenni plant, ffilmiau |
Cyffredinol |
ETB 2 |
1986 |
Sbaeneg |
Newyddion, adloniant, rhaglenni dogfen, chwaraeon, rhaglenni pobl ifanc, rhaglenni plant, ffilmiau |
Cyffredinol |
ETB 3 |
2008 |
Basgeg |
Adloniant |
Plant/Pobl Ifanc |
ETB 4 |
2014 |
Dwyieithog |
Chwaraeon |
Cyffredinol |
ETB Sat |
|
Dwyieithog |
Diwylliant Basgeg |
Sbaen ac Ewrop |
Canal Vasco |
|
Dwyieithog |
Diwylliant Basgeg |
America Ladin |
RADIO |
Lansiwyd |
Iaith |
Cynnwys |
Cynulleidfa |
Euskadi Irratia |
1982 |
Basgeg |
Newyddion/radio siarad |
Cyffredinol |
Radio Euskadi |
|
Sbaeneg |
Newyddion/radio siarad |
Cyffredinol |
Euskadi Gazeta |
|
Basgeg |
Cerddoriaeth |
Pobl ifanc |
EiTB Irratia |
|
Dwyieithog |
Diwylliant/cerddoriaeth |
Cyffredinol |
Radio Vitoria (Radio lleol i ddinas Vitoria) |
|
Sbaeneg |
Newyddion/radio siarad |
Cyffredinol |
Atodiad 3:
Catalwnia – Sianeli a Gorsafoedd
Corporació Catalana de Mitjans Audiovisuals (CCRTV)
TELEDU (Televisió de Catalunya) |
Lansiwyd |
Iaith |
Cynnwys |
Cynulleidfa |
TV3/TV3 HD |
1983 Lansiwyd yr HD yn 2007 |
Catalaneg |
Newyddion, adloniant, dramâu, chwaraeon, ffilmiau rhaglenni dogfen, diwylliant |
Cyffredinol |
El 33 |
1988 |
Catalaneg |
Rhaglenni dogfen, diwylliant |
Cyffredinol |
TV3CAT |
1995 |
Catalaneg |
Cyfuniad o gynnwys TV3 ac EI33 |
Rhyngwladol |
3/24 |
2003 |
Catalaneg |
Newyddion 24-awr y dydd |
Cyffredinol |
Super3 |
2009 |
Catalaneg |
Adloniant |
Plant/Pobl Ifanc |
Esport 3 |
2010 |
Catalaneg |
Chwaraeon |
Cyffredinol |
RADIO (Catalunya Ràdio) |
Lansiwyd |
Iaith |
Cynnwys |
Cynulleidfa |
Catalunya Ràdio |
1983 |
Catalaneg |
Cyffredinol 24-awr y dydd |
Cyffredinol |
Catalunya Música |
1987 |
Catalaneg |
Cerddoriaeth gyfoes a thraddodiadol 24-awr y dydd |
Cyffredinol |
Catalunya Informació |
1992 |
Catalaneg |
Newyddion 24-awr y dydd |
Cyffredinol |
iCat FM |
2006 |
Catalaneg |
Diwylliant cyfoes a thraddodiadol Amlblatfform – ar y we |
Pobl ifanc |
1 S – Sianel, R – Radio
3 http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-39042666
4 https://cy.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/internationalmigration/datasets/populationoftheunitedkingdombycountryofbirthandnationality
5 https://llyw.cymru/cytundeb-ar-fframwaith-cyllidol-llywodraeth-cymru
6 http://downloads.bbc.co.uk/aboutthebbc/reports/annualreport/2018-19-cy.pdf
7 https://www.ofcom.org.uk/ data/assets/pdf_file/0018/23913/tvadvmarket.pdf
8 Y pedwar cwmni gwasanaeth ffôn symudol mwyaf yn y DG (yn dechrau gyda’r mwyaf) yw EE (g.g. Orange a T-Mobile), O2, Vodafone a Three, gyda tua 85% o’r farchnad rhyngddyn nhw. Y pedwar cwmni band llydan/rhyngrwyd mwyaf yn y DG (yn dechrau gyda’r mwyaf) yw BT Broadband, Sky Broadband, Virgin Media a TalkTalk gyda tua 87% o’r farchnad rhyngddyn nhw.
9 https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0026/26648/uk_telecoms.pdf
10https://www.thinkbox.tv/News-and-opinion/Newsroom/20160223-TV-advertising-spend-in-the-UK-tops-5-billion-for-first-time
11https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0026/17495/uk_tv.pdf
12 tudalen 65 https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0022/117256/CMR-2018-narrative-report.pdf
13 http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/38664339
14 “Yn ystod y flwyddyn ariannol 2018/19 roedd Ofcom wedi casglu £1,688.6m (2017/18: £326.7m) ar ran Trysorlys EM ac roedd £54.3m (2017/18: £23.9m) wedi cael ei gadw i dalu am rai o’i gyfrifoldebau craidd Ofcom, gan gynnwys Rheoli Sbectrwm. Cafodd £1.3bn ychwanegol o dderbyniadau eu casglu yn y flwyddyn ariannol hon, sy’n ymwneud â chasgliad arwerthiant sbectrwm y bandiau 2.3 a 3.4 Ghz.” https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0022/156163/Adroddiad-a-Chyfrifon-Blynyddol-y-Swyddfa-Gyfathrebiadau.pdf
15 “Yn ystod y flwyddyn ariannol 2018/19 roedd Ofcom wedi casglu £1,688.6m (2017/18: £326.7m) ar ran Trysorlys EM ac roedd £54.3m (2017/18: £23.9m) wedi cael ei gadw i dalu am rai o’i gyfrifoldebau craidd Ofcom, gan gynnwys Rheoli Sbectrwm. Cafodd £1.3bn ychwanegol o dderbyniadau eu casglu yn y flwyddyn ariannol hon, sy’n ymwneud â chasgliad arwerthiant sbectrwm y bandiau 2.3 a 3.4 Ghz.” https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0022/156163/Adroddiad-a-Chyfrifon-Blynyddol-y-Swyddfa-Gyfathrebiadau.pdf
16 http://www.bbc.co.uk/news/entertainment-arts-34902244
17 https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/fil... Accounts_2016_to_2017_-_web_optimised_version.pdf (tudalen 237
18 Mae’r gwariant uchod yn cynnwys costau gweinyddol ar gyfer sefydlu a chynnal endid darlledu cenedlaethol ar wahân sef yr ‘Endid Creu Cynnwys’.
19 Disgwylir y bydd costau un-tro o sefydlu’r Cyngor cyfathrebu Cenedlaethol hyd at £6 miliwn
20 Preifateiddiwyd y rhwydwaith mastiau darlledu yn 1997. Erbyn hyn, telir costau rhent gan ddarlledwyr cyhoeddus i gwmnïau preifat er mwyn darlledu signal. Credwn y dylai fod ystyriaeth i wladoli’r mastiau hyn.