Deiseb i hawlio'r pwerau dros ddarlledu i Gymru – arwyddwch a chefnogwch!

Mae datganoli darlledu yn un o brif ymgyrchoedd Grŵp Dyfodol Digidol y Gymdeithas, ac mae'r sefyllfa bresennol wedi amlygu – yn fwy nag erioed  bwysigrwydd yr ymgyrch hwn.

Mae'n hanfodol fod gennym y grym yma yng Nghymru i benderfynu dros ddyfodol ein sianel Gymraeg a'n gorsafoedd radio lleol. Credwn y dylid datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu yn ei gyfanrwydd i Senedd Cymru, gan gynnwys y grym o reoleiddio’r holl sbectrwm darlledu.

Cefnogwch yr ymgyrch drwy arwyddo'r ddeiseb sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ymdrechion i hawlio'r pwerau dros ddarlledu i Gymru yn ôl dymuniad pobl Cymru. Gellir arwyddo'r ddeiseb yma.

Darllenwch ein papur polisi ar ddatganoli darlledu yma.