Dyfodol Digidol

Croesawu Creu Panel Darlledu

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cyhoeddiad y Llywodraeth o'r bwriad i greu panel panel arbenigol newydd a fydd yn dechrau ar y gwaith o sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru.

Wrth groesawu dywedodd Mirian Owen, is-gadeirydd grŵp darlledu Cymdeithas yr Iaith:

Beth fydd effaith y cyfryngau digidol ar gymunedau gwledig Cymraeg?

Mae recordiad y digwyddiad bellach ar gael i'w weld yma

Yn fforwm agored "Tynged yr Iaith Sir Gâr: Cyfraniad y Cyfryngau Digidol" ar ddydd Sadwrn y 25ain o Fedi bydd Cymdeithas yr Iaith yn tynnu ynghyd cynghorwyr etholedig a swyddogion y cyngor sir, prif swyddogion canolfan Yr Egin a'r rhai sy'n datblygu cynnwys Cymraeg ar gyfer y we er mwyn trafod sut all y cyfryngau digidol fod o fudd i'n cymunedau.

‘Y tro olaf’ dylai Llywodraeth San Steffan benderfynu ar gyllideb S4C

 

Gyda Llywodraeth San Steffan yn y broses o benderfynu ar setliad ariannol S4C ar gyfer y cyfnod 2022-27, mae mudiad iaith wedi dweud taw dyma’r ‘tro olaf’ dylai’r cyfrifoldeb fod yn eu dwylo nhw.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at Weinidog Cyfryngau a Data y Deyrnas Gyfunol, John Whittingdale AS, yn galw am drosglwyddo grymoedd darlledu i Gymru er mwyn sicrhau setliad ariannol teg i’r sianel. 

 

Dywed y llythyr:

Cross-party consensus in favor of the devolution of broadcasting labelled a 'historic turning point'

Cymdeithas yr Iaith has welcomed the recommendations of a new report by the Senedd’s Culture, Welsh Language and Communications Committee which calls for a number of broadcasting powers to be devolved to Wales.

 

Mwy o gynnwys Cymraeg ar-lein – Menter Ddigidol Gymraeg

01/08/2020 - 13:00
Digwyddiad sy'n rhan o'r Eisteddfod AmGen dan ofal Is-grŵp Technoleg y Gymdeithas.
 
Cyfle i drafod Menter Ddigidol Gymraeg a ffyrdd o sicrhau mwy o gynnwys Cymraeg ar-lein. 
 

Trafodaeth fyw ar Zoom gyda Leia Fee a Carl Morris o Gymdeithas yr Iaith.

Deiseb i hawlio'r pwerau dros ddarlledu i Gymru – arwyddwch a chefnogwch!

Mae datganoli darlledu yn un o brif ymgyrchoedd Grŵp Dyfodol Digidol y Gymdeithas, ac mae'r sefyllfa bresennol wedi amlygu – yn fwy nag erioed  bwysigrwydd yr ymgyrch hwn.

Mae'n hanfodol fod gennym y grym yma yng Nghymru i benderfynu dros ddyfodol ein sianel Gymraeg a'n gorsafoedd radio lleol. Credwn y dylid datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu yn ei gyfanrwydd i Senedd Cymru, gan gynnwys y grym o reoleiddio’r holl sbectrwm darlledu.

Grŵp Dyfodol Digidol

13/05/2020 - 19:00

Cynhelir cyfarfod nesa'r Grŵp Dyfodol Digidol dros Skype ar nos Fercher, 13 Mai 2020.

Bydd y trafodaethau'n canolbwyntio ar yr Ymgyrch Datganoli Darlledu. Os oes gennych ddiddordeb yn y maes hwn, mae croeso mawr i chi ymuno â'r Grŵp – rhowch wybod: post@cymdeithas.cymru

Grŵp Dyfodol Digidol

12/01/2023 - 12:40
Cynhelir cyfarfod nesa'r grŵp hwn dros Zoom am 12.40, dydd Iau, 12 Ionawr 2023.
 
Mae'r grwp yn ymwneud a materion yn ymwneud a darlledu a chynnwys ar-lein felly os oes diddordeb gyda chi yn y meysydd hyn, mae croeso i chi ymuno a'r grŵp. Byddai'n braf iawn croesawu aelodau newydd i'r grŵp.
 

Dim ffi drwydded? ‘Byddai datganoli darlledu yn cryfhau darlledu cyhoeddus’

Yn dilyn adroddiadau bod Llywodraeth Prydain yn bygwth y ffi drwydded deledu, mae ymgyrchwyr wedi dweud bod datganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru yn hanfodol er mwyn amddiffyn ac ehangu darlledu cyhoeddus.

Yn ôl adroddiadau yn y Sunday Times, mae Llywodraeth Prydain yn bwriadu troi’r BBC i mewn i wasanaeth tanysgrifio. Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o’r arian i S4C yn dod o’r ffi drwydded.

Stondin Stryd Datganoli Darlledu - Caerdydd

22/02/2020 - 11:00

Cynhelir stondin stryd fel rhan o'r ymgyrch dros bwerau darlledu i Gymru am:

11yb, dydd Sadwrn, 22ain Chwefror

Tu allan i'r Co-op ar Stryd Pontcanna. Caerdydd, CF11 9HS

https://www.google.com/maps/dir//51.4886862,-3.2002622/@51.4885075,-3.2013807,18z/data=!4m2!4m1!3e1?hl=en

Am fwy o wybodaeth: de@cymdeithas.cymru / 02920 486469