Beth fydd effaith y cyfryngau digidol ar gymunedau gwledig Cymraeg?

Mae recordiad y digwyddiad bellach ar gael i'w weld yma

Yn fforwm agored "Tynged yr Iaith Sir Gâr: Cyfraniad y Cyfryngau Digidol" ar ddydd Sadwrn y 25ain o Fedi bydd Cymdeithas yr Iaith yn tynnu ynghyd cynghorwyr etholedig a swyddogion y cyngor sir, prif swyddogion canolfan Yr Egin a'r rhai sy'n datblygu cynnwys Cymraeg ar gyfer y we er mwyn trafod sut all y cyfryngau digidol fod o fudd i'n cymunedau.

Mae Cyngor Sir Gâr ar fin cyhoeddi ei Strategaeth Trawsnewid Digidol. Yn rhan o hynny bydd cyllid yn benodol i ddatblygu'r rhwydwaith. Felly yn ôl Cymdeithas yr Iaith daw cyfleoedd newydd i gymunedau gwledig, ond does dim sicrwydd y bydd manteisio ar y cyfleon heb fod camau pendant yn cael eu cymryd

Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin:
"Gall y cyfryngau digidol gryfhau cymunedau gwledig Cymraeg yn Sir Gâr trwy alluogi mwy o bobl i weithio o adref, a thrwy ehangu a chyfoethogi'r diwylliant cymunedol a'r cyswllt rhwng cymunedau.

"Bydd strategaeth ddigidol y cyngor ac adnodd yr Egin yng Nghaerfyrddin yn rhoi cyfleon, ond rhaid cynllunio i fanteisio ar y cyfleon. Yn y gorffennol, cymerwyd yn ganiataol fod datblygu priffyrdd gwell yn sicr o hybu'r economi, ond gallant yr un mor rwydd ddenu pobl i gymudo i weithio tu allan i'r sir a chodi prisiau tai. Yr un modd, gall datblygu "priffyrdd digidol" gael eu defnyddio'n unig i bobl symud i'r sir i weithio oddi cartref a chwyddo prisiau tai ymhellach tu hwnt i gyrraedd pobl leol – heblaw am fod camau pendant mewn lle o ran hyfforddiant, cydweithio gyda'r Adran Addysg a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd, a phrosiectau i'r Egin weithio gyda chymunedau lleol y sir.

"Bydd cyfle i bawb holi cwestiynau a bod yn rhan o'r drafodaeth trwy anfon atom am ddolen zoom"

Ynghyd â thrafod seilwaith a chysylltedd bydd cyflwyniad hefyd am y cysyniad o greu Menter Iaith Ddigidol i sicrhau fod digon o ddeunydd Cymraeg cyfredol ar gael ar-lein.

Cysylltwch â bethan@cymdeithas.cymru i gael dolen i ymuno â'r cyfarfod