Cymdeithas yr Iaith yn ymuno â’r galw i wella cyllido cylchronau a chyfnodolion Cymreig

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi arwyddo llythyr agored gan yr awdur a’r darlledwr Mike Parker sy’n galw ar Lywodraeth Cymru, Cymru Greadigol a Chyngor Llyfrau Cymru i ailstrwythuro a wella cyllid craidd cylchgronau, cyfnodolion a gwefannau yng Nghymru, gan ddweud eu bod yn “allweddol” ar gyfer datblygiad diwylliant a democratiaeth Cymru a thyfu “ecosystem cyfryngau Gymreig”. 

Mae’r llythyr agored yn galw am newid sylfaenol i ddatrys y tangyllido sy’n bygwth dyfodol cylchgronau a gwefannau yng Nghymru, gan nodi bod tâl ac amodau gweithio ymysg staff y cyhoeddiadau yn gwaethygu’n sylweddol o flwyddyn i flwyddyn ac mewn peryg o ddod yn anghynaliadwy.

Mae’r llythyr hefyd wedi’i arwyddo gan Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr, Cymdeithas yr Awduron - Cymru, Wales PEN Cymru, a’r athrawon Laura McAllister a Richard Wyn Jones.

Dywedodd Carl Morris, Cadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol Cymdeithas yr Iaith:

“Mae arwyddocâd yr ymgyrch hon yn enfawr. Mae lles a lluosogrwydd ein cylchgronau a  chyfnodolion yn allweddol ar gyfer datblygiad ein diwylliant, democratiaeth a’r ecosystem cyfryngau Gymreig. 

“Ymysg y drafodaeth ynglyn a’r diwygiadau arfaethedig i’r Senedd a gyflwynwyd yr wythnos hon, dylen ni ddim anwybyddu cyflwr ein cyfryngau. Mae’n rhaid mynd i’r afael â gwendid y cyfryngau yng Nghymru ar frys, a byddai’r galwadau yn y llythyr agored yn mynd ymhell i gyrraedd y nod yno.”