Radio Cymru 2: croesawu 'datblygiad addawol iawn'

Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu'r newyddion y caiff ail wasanaeth radio Gymraeg ei sefydlu'n barhaol.   

Y llynedd, galwodd Cymdeithas yr Iaith ar i'r gorfforaeth sicrhau bod yr arbrawf Radio Cymru Mwy yn dod yn barhaol ar radio digidol ym mhob rhan o Gymru. Mae'r mudiad wedi bod yn annog darlledwyr i ehangu eu gwasanaethau ar ragor o blatfformau ers nifer o flynyddoedd.  Mae'r mudiad hefyd wedi croesawu gwasanaethau newydd ar-lein S4C hefyd o'r enwau Pump a Hansh, ac wedi galw ar i Awdurdod S4C ehangu gwasanaethau Cymraeg i nifer o blatfformau eraill, gan gynnwys radio.    

Daw'r datblygiad wedi'r newyddion bod dros 50 o gefnogwyr Cymdeithas yr Iaith yn gwrthod talu am eu trwyddedau teledu er mwyn datganoli darlledu i Gymru.  

Dywedodd Carl Morris, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith:  

"Ry'n ni'n croesawu'r newyddion yma - mae'n ddatblygiad addawol iawn gan fod dybryd angen rhagor o gynnwys digidol amrywiol yn y Gymraeg. Gall un orsaf ddim bod yn bopeth i bawb, felly gobeithio bydd y gwasanaeth newydd yma yn golygu y bydd rhagor o amrywiaeth.  

"Fel rhan o'n cynigion i ddatganoli darlledu, ry'n ni wedi galw am sefydlu gwasanaethau annibynnol newydd i Gymru ar draws nifer o blatfformau gydag adnoddau sylweddol – nid dyna yw'r hyn sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw, ond mae'n gam yn y cyfeiriad cywir a dymunwn pob llwyddiant i'r gwasanaeth newydd.  

"Wrth edrych ymlaen, byddwn ni'n parhau i ymgyrchu dros ddatganoli darlledu i Gymru er mwyn i ragor o wasanaethau Cymraeg gael ei sefydlu gyda sail ariannol gadarn. Wedi'r cwbl, fydd ddim modd i ni gael gwasanaethau teilwng i Gymru na'r Gymraeg heb i bobl Cymru allu llywio system gyfryngol eu hunain."