Dim Cymraeg ar Radio Ceredigion? Galw am ddatganoli darlledu

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am ddatganoli pwerau darlledu i Gymru yn dilyn cais Nation Radio am drwydded Radio Ceredigion heb ddim ymrwymiad i ddarlledu unrhyw beth yn Gymraeg.   

Yn 2012, gwrthododd Nation Radio (o dan ei enw blaenorol Town and Country) adnewyddiad awtomatig o’i drwydded gan lwyddo wedyn i adennill y drwydded gan Ofcom gyda llai o oriau o ddarlledu Cymraeg. Ym mis Ebrill, gadawodd y cwmni i'w drwydded bresennol ddirwyn i ben. Mae’r cais am drwydded gyda fformat gwahanol, megis un gyda llai o oriau Cymraeg 

Yn gynharach eleni, pleidleisiau Llywodraeth Llafur Cymru ynghyd â’r Aelod Cynulliad Dafydd Elis Thomas, a drechodd ymgais pleidiau eraill yn y Senedd i gychwyn ymchwiliad i mewn i'r achos dros ddatganoli pwerau darlledu i Gymru.  

Meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:   

"Mae'n gwbl amlwg nad yw'r system ddarlledu dan reolaeth San Steffan yn cael ei chynnal er lles Ceredigion na Chymru. Datganoli darlledu yw'r unig ateb. 

"Dwi ddim yn ystyried Radio Ceredigion fel gorsaf Gymraeg fel y mae, heb sôn am y posibiliad o beidio cynnwys Cymraeg drwy'r newid i'r drwydded. Mae Llywodraeth Prydain wrthi'n ceisio llacio rheoleiddio yn bellach – gyda dim gofyniad i radio masnachol gynnwys newyddion cenedlaethol am Gymru na darlledu yn Gymraeg. Mae gwir angen datganoli darlledu i Gymru i ni fel cenedl allu gosod rheolau ein hunain, wedi'i seilio ar beth sy'n bwysig i ni. Pa synnwyr mae'r wlad drws nesaf i ni sy'n gyfrifol am ddarlledu yn y wlad?"    

Ofcom sydd yn rheoleiddio radio lleol drwy wledydd ynysoedd Prydain ond mae Cymdeithas yr Iaith yn gweld datganoli rheoleiddwyr radio lleol fel un o'r camau cyntaf tuag at ddatganoli darlledu i Gymru.