Comisiynydd y Gymraeg: camgymeriad pellach gan Gyngor Ceredigion dros ddyfodol ysgolion gwledig

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi datgan nad yw Cyngor Ceredigion wedi cydymffurfio â Safonau’r Iaith cyn cynnal ymgynghoriad ar gau ysgol wledig Gymraeg yn y sir.

Mewn llythyr at gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Llangwyryfon, dywed Efa Gruffydd Jones nad oedd y Cyngor wedi asesu'n gywir effaith cau'r ysgol ar y Gymraeg, gan mai'r Gymraeg yw cyfrwng naturiol plant ar yr iard chwarae yn Llangwyryfon a phe bai’r ysgol yn cau, byddai’r plant yn cael eu hanfon i ysgol gyfagos lle nad yw’r Gymraeg yn iaith yr iard chwarae.

Yn yr ohebiaeth rhwng y Cyngor a swyddfa'r Comisiynydd, a ryddhawyd heddiw, mae'r Cyngor yn cydnabod nad yw wedi cydymffurfio â'i gyfrifoldebau o dan Safonau'r Iaith, ac yn ymrwymo i fynd ati “fel mater o flaenoriaeth” o ddiwygio’r ddogfen Asesiad Effaith ar y Gymraeg, cyhoeddi'r fersiwn newydd ar ei wefan, a chynnig rhagor o amser ymateb i'r ymgynghoriad.

Gan fod y cyngor yn cydnabod ei fai, dywed y Comisiynydd nad oes angen cynnal ymchwiliad i’r achos.

Mae Ysgol Llangwyryfon yn un o dair ysgol Gymraeg gwledig yng ngogledd Ceredigion sy’n destun ymgynghoriadau ar eu cau, mae Ysgol Craig-yr-Wylfa ac Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn yn wynebu bygythiadau i’w dyfodol. Mae disgwyl y bydd ymgynghoriad ar ddyfodol Ysgol Syr John Rhys ym Mhonterwyd yn agor yn hwyrach yn y mis, wedi i’r cyngor ymgynghori â’r Eglwys yng Nghymru. 

Wrth ymateb i’r ohebiaeth, dywedodd Jeff Smith, cadeirydd rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith:

"Dyma enghraifft arall o sut mae’r Cyngor wedi bwrw ymlaen yn benderfynol gyda'r cynllun i gau'r pedair ysgol heb hyd yn oed trafod yn gyntaf effaith llawn cau'r ysgolion na'r holl opsiynau amgen.

“Byddai'n well o lawer petai'r Cyngor yn terfynu'r holl ymgynghoriadau hyn ac yn lle hynny eistedd lawr gyda'r ysgolion gwledig a chymunedau i drafod yn gadarnhaol yr opsiynau gorau wrth symud ymlaen.”

Ychwanegodd cynghorydd sir Llangwyryfon, Cyng. Gwyn Wigley Evans:

"Dw i'n siomedig nad oedd y Cyngor wedi cydymffurfio â gofynion Safonau'r Gymraeg, a dw i'n falch deall ei fod yn mynd i gwympo ar ei fai, fel y dylai wneud.”

Mae’r awdurdod lleol eisoes yn wynebu cwyn ffurfiol i Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, nad yw wedi cydymffurfio â Chod Trefniadaeth Ysgolion wrth lunio’r ymgynghoriad.

Yn y gwyn gan Gymdeithas yr Iaith, a anfonwyd ddechrau’r wythnos, dywed bod y cyngor wedi dechrau’r drafodaeth gyda’r bwriad o wneud arbedion ariannol yn hytrach na rhoi buddiannau addysg a dysgwyr yn gyntaf a pheidio ystyried na thrafod yn gyntaf opsiynau amgen gydag ysgolion, yn unol â gofynion y Cod.

Yn ychwanegol, mae'r cyfnod ymgynghori, a agorodd ddydd Llun diwethaf (14 Hydref) wedi ei ymestyn dau ddiwrnod gan nad oedd y Cyngor wedi rhoi'r dogfennau ar yr adran briodol o'u gwefan tan Nos Fawrth.