Ysgolion gwledig Ceredigion: Ysgrifennydd Addysg yn cadarnhau rhagdyb o blaid ysgolion gwledig

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhyddhau testun e-bost gan Ysgrifennydd newydd Cabinet y Llywodraeth dros Addysg, Lynne Neagle, sy’n cadarnhau fod y rhagdyb o blaid ysgolion gwledig – sy'n ganolog i argraffiad 2018 y Cod Trefniadaeth Ysgolion – yn parhau'n bolisi swyddogol Llywodraeth Cymru. Daw'r datblygiad hwn wedi i swyddogion Cyngor Ceredigion hysbysu llywodraethwyr eu bod yn adolygu dyfodol nifer o ysgolion gwledig trwy'r sir yng nghyd-destun gwneud arbedion brys i’w cyllideb ar gyfer 2025-26.

Dywedodd Ffred Ffransis ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

"Rydym yn falch o dderbyn y sicrwydd hwn gan y Gweinidog newydd fel nad oes unrhyw gamddeall gan swyddogion y Cyngor am eu dyletswyddau statudol. Mae'r Gymdeithas wedi eu hysbysu y byddent yn gweithredu'n groes i'r Cod mewn nifer o ffyrdd petaent yn mynd ymlaen gyda'u bwriad brys o osod "Papurau Cynnig" gerbron cyfarfod 16 Gorffennaf o Gabinet y Cyngor i geisio caniatâd y cynghorwyr etholedig i ymgynghori'n ffurfiol ar gynnig i gau unrhyw ysgol.”

Yn ôl y Gymdeithas, byddai cam o'r fath yn torri'r Cod trwy

1) Danseilio holl gysyniad rhagdyb o blaid Ysgolion Gwledig trwy eu hadolygu fel problemau cyllidol potensial yn hytrach nag fel asedau cymunedol gwerthfawr

2) Eu hadolygu yng nghyd-destun ymarferiad cwtogi ar wariant yn hytrach nag yng nghyd-destun eu gallu i gyflwyno'r cwricwlwm ac addysgu'n llwyddiannus

3) Hyd yn oed o ran rhesymoli nifer lleoedd mewn ysgol y mae'r Cod yn mynnu fod Awdurdod Lleol yn edrych ar y ddarpariaeth fesul ardal yn hytrach na thargedu ysgolion gwasgarog yma ac acw.

4) Mae'r Cod yn mynnu fod ystyried pob opsiwn amgen yn fanwl cyn cynnig hyd yn oed cau ysgol ar Restr swyddogol Ysgolion Gwledig. Enwir yn y Cod lawer o opsiynau – fel creu ysgolion aml-safle, ffedereiddio ysgolion (boed cynradd neu gynradd ac uwchradd), defnyddio capasiti dros ben mewn ysgol ar gyfer gwaith arall gan y Cyngor neu gyflwyno gwasanaethau eraill, ehangu ystod yr addysg trwy e-ddysgu ac yn y blaen. Ar ben hyn y mae opsiynau lleol fel creu ymddiriedaeth gymunedol i berchnogi adeilad fel na bo raid i Gyngor ond rhentu hynny o ofod sydd ei angen ar gyfer ysgol.

5) Yn gwbl dyngedfennol, dywed y Cod fod "Cyfraith Achosion" yn mynnu fod yn rhaid i Awdurdod Lleol drafod yr holl bosibiliadau gyda rhan-ddeiliaid "tra bo'r cynnig ar gam ffurfiannol" – hynny yw na fyddai'n ddigonol i grybwyll yn unig yr opsiynau amgen mewn Papur Cynnig.

Ar ran y Gymdeithas, mae Ffred Ffransis yn casglu felly:

"Byddai'n hollol briodol i Swyddogion Addysg Ceredigion gynnig i'r Cabinet fod cynnal ymgynghoriad cyffredinol ar sut i gryfhau ysgolion gwledig (fel ddigwyddodd yn Sir Gar gyfagos wrth adolygu ei 'Gynllun Moderneiddio Addysg') a byddai Cymdeithas yr Iaith yn croesawu trafodaeth agored o'r fath.

“Ond, nid yw'n gyfreithlon i'r Cyngor ruthro at ymgynghoriad ar gau ysgolion ar restr y Llywodraeth o Ysgolion Gwledig i’w gwarchod er mwyn ceisio arbed rhywfaint o gyllid. Rydym yn hyderus y bydd aelodau etholedig y sir yn galw am drafodaeth gadarnhaol y gall pawb fod yn rhan ohoni."

Llythyr yr Ysgrifennydd Addysg:

Galwad ar Gyngor Ceredigion i drin ysgolion gwledig yn gadarnhaol