Areithiau Rali Nid yw Cymru ar Werth Nefyn 29 o Fawrth 2025

Walis George

I ddechrau dwi am dalu teyrnged i Sel Williams a fu farw fis yn ôl. Diolch am ei gyfraniad, am gyflwyno’r term ‘cymunedoli’ i’r iaith Gymraeg ac am ei ffydd yng ngallu cymunedau i ddod at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau hanfodol a chreu cyfoeth er budd lleol.

Cyd-destun

Yr argyfwng tai presennol yw’r gwaethaf y gallaf ei gofio yn fy 30 mlynedd a mwy yn gweithio yn y sector cymdeithasau tai.

Mae cymunedau gwledig ac arfordirol yn wynebu prinder digynsail o gartrefi fforddiadwy i’w prynu neu eu rhentu. Dangosodd ymchwil Cyngor Gwynedd yn 2023 fod 65.5% o’r boblogaeth leol wedi eu prisio allan o’r farchnad dai, ac mewn ardaloedd gyda niferoedd uchel o ail gartrefi a llety gwyliau roedd y ganran yn llawer uwch. Er enghraifft, yn ward Abersoch mae 96% o'r bobl leol wedi cael eu prisio allan o'r farchnad.

Os nad gennych chi'r modd ariannol i brynu ty ar y farchnad agored, a bod llawer llai o dai ar gael i’w rhentu oherwydd y farchnad llety gwyliau, pa opsiynau eraill sydd gan bobl i ddod o hyd i le addas, diogel a fforddiadwy i fyw ynddo? Nid yw’n gyd-ddigwyddiad bod rhestrau aros tai cymdeithasol ledled Cymru wedi cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf: mwy na 90,000 o aelwydydd mewn angen yn ôl Shelter Cymru. Mae digartrefedd ar y lefel uchaf erioed (13,539 o aelwydydd ar 31 Mawrth 2024) 1 gyda 11,466 o bobl yn byw mewn llety dros dro, fel gwely a brecwast: 2,823 ohonynt yn blant o dan 16 oed2.

Gwyddom mai prif achos yr argyfwng tai yng Nghymru, gweddill y DU ac ledled yr UE yw masnacheiddio tai h.y. trin tai fel nwyddau ariannol i’w prynu a'u gwerthu am elw. Un o’r esiamplau cyntaf o’r athroniaeth neo-ryddfrydol hon oedd cyflwyno’r Hawl i Brynu tai cyngor yn yr wythdegau. Erbyn i’r polisi niweidiol hwn gael ei ddiddymu yng Nghymru yn 2019 roeddem wedi colli 139,000 o gartrefi cymdeithasol ar rent i’r farchnad agored. Mae hyn wedi cyfrannu'n fawr at yr argyfwng tai presennol.

Yn ogystal â difetha bywydau, mae’r argyfwng tai yn tanseilio dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol drwy ddadleoli pobl o’u cymunedau. Gwelodd pob awdurdod lleol yn y Gogledd a’r Gorllewin ostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021. Ardaloedd lle mae’r argyfwng tai, mewnfudo ac allfudo wedi bod yn ffactorau arwyddocaol

Tai cymdeithasol

Mae digon o dystiolaeth gan ranbarthau a gwledydd ar draws yr UE bod cynyddu cyfran y cartrefi mewn perchnogaeth gyhoeddus a chymunedol yn hanfodol, nid yn unig i sicrhau cyflenwad digonol o gartrefi fforddiadwy, ond hefyd fel arf i gydbwyso prisiau yn y farchnad dai ehangach. Pam felly fod cymunedau Llŷn a thu hwnt yn gwrthwynebu ceisiadau cynllunio am dai cymdeithasol?

Ateb amlwg yw bod cymunedau wedi colli hyder yn y system gynllunio, ac yn ddrwgdybus o ddatblygwyr tai a chymdeithasau tai. Ym mhentref Botwnnog cyflwynodd datblygwr lleol gais i adeiladu 18 o dai fforddiadwy a fyddai yn y pen draw yn cael eu rheoli gan gymdeithas dai. Mae’r Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig am nifer o resymau:

  • Pryder bod nifer y tai yn fwy na'r angen lleol

  • Bod galw am dai fforddiadwy i'w prynu, nid tai ar rent cymdeithasol

  • Amheuon am iaith y rhai sy'n dod i fyw i'r tai newydd a'r effaith ar y defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned.

Rwy'n falch o ddweud bod Cymdeithas yr Iaith yn cefnogi galwadau Cynghorau Cymuned Aberdaron a Thudweiliog, a Chyngor Tref Nefyn i sefydlu a gweithredu Polisïau Gosod a Gwerthu Lleol a fydd yn cymryd y Gymraeg i ystyriaeth. Rydym yn croesawu barn gyfreithiol ddiweddar Comisiynydd y Gymraeg, sy’n cadarnhau’r hawl i ystyried y Gymraeg mewn polisïau gosod tai cymdeithasol.

Galwn heddiw ar gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i weithredu ar fyrder, a sefydlu Polisïau Gosod Lleol sy’n blaenoriaethu siaradwyr Cymraeg lleol yn Llŷn a chymunedau Cymraeg eraill.

Comisiwn Cymunedau Cymraeg

Er mwyn galluogi cymryd camau radical fel hyn, mae'n hanfodol sefydlu dynodiad statudol o ardaloedd o arwyddocád ieithyddol arbennig, fel yr argymhellwyd gan y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Fel y mae adroddiad y Comisiwn yn nodi “Byddai dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer:

  • dwysáu’r ystyriaeth a wneir o’r Gymraeg o fewn fframwaith polisi.

  • caniatáu ymyraethau ac amrywiaeth polisi o blaid y Gymraeg fel iaith gymunedol.

  • sicrhau fod yr amrywiaeth polisi yn ymateb i anghenion cymdeithasol ac ieithyddol yr ardaloedd hyn.”

Mae saith mis bellach wedi mynd heibio ers cyhoeddi adroddiad y Comisiwn yn ystod yr Eisteddfod ym Mhontypridd. Mae sôn y bydd ymateb yn Eisteddfod yr Urdd, fydd yn gadael deg mis, ar y mwyaf, i ddechrau gweithredu ar unrhyw argymhellion. Rhaid inni ofyn felly pam fod Llywodraeth Cymru yn llusgo’i thraed cyn cyhoeddi ei hymateb? Esiampl arall o ddifaterwch a ddiffyg ymwybyddiaeth y Llywodraeth bresennol o'r argyfwng yn ein cymunedau Cymraeg!

Deddf Eiddo

Mae'r Gymdeithas wedi cyhoeddi cynigion diwygiedig ar gyfer Deddf Eiddo yn dilyn y consesiynau polisi pwysig a enillwyd i reoli niferoedd ail gartrefi a llety gwyliau ym meysydd cynllunio, trethiant lleol a thrwyddedu llety gwyliau. Dyma rai o’r cynigion manwl a gyhoeddwyd yn 2023:

  1. Hawl i dai digonol yn lleol

Corffori’r Hawl i Dai Digonol yng nghyfraith ddomestig Cymru i sefydlu’r egwyddor gyfreithiol bod tai yn hawl ddynol sylfaenol, ac i osod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i roi polisïau ar waith i sicrhau bod cartref diogel yn cael ei ddarparu i bawb. Ni fyddai hyn yn datrys yr holl broblemau tai yng Nghymru yn y tymor byr, ond byddai’n gam cyntaf pwysig tuag at sefydlu system dai decach, fwy cynhwysol i ddiwallu anghenion yn y tymor hir.

  1. Cynllunio ar gyfer anghenion lleol

Gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i gydgynhyrchu Asesiad Cymunedol rheolaidd gyda chymunedau fel partneriaid cyfartal o leiaf bob 5 mlynedd. Y rhain fyddai'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer Strategaethau Tai a Chynlluniau Datblygu'r Awdurdodau Lleol. Dylai’r Strategaethau Tai Lleol gynnig rhaglen fuddsoddi a fyddai’n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion lleol, a sicrhau cyflenwad o’r mathau cywir o dai yn y mannau cywir, gan gynnwys prynu tai o’r stoc bresennol.

  1. Grymuso cymunedau

Cryfhau hawliau perchnogaeth a rheolaeth cymunedau dros dai, tir ac asedau cymunedol eraill trwy gyflwyno Hawl Gymunedol i Brynu. Galluogi cymunedau i arfer eu hawl newydd drwy Gronfa Cyfoeth Cymunedol a fyddai’n ariannu prynu tir ac adeiladau sy’n cyfrannu at gynaliadwyedd cyffredinol cymuned neu'n galluogi cadw neu ddarparu gwasanaethau lleol allweddol.

  1. Blaenoriaethu pobl leol

Sefydlu Marchnad Dai Leol mewn ardaloedd lle mae cyfran uchel o’r boblogaeth leol yn cael eu prisio allan o’r farchnad. Gosod amodau ar brynu, gwerthu a gosod tai er mwyn pennu pwy all fyw mewn llety penodol – gan gynnwys targedau gosod tai cymdeithasol a fforddiadwy i siaradwyr Cymraeg lleol.

Etholiad 2026

Etholiad nesaf Senedd Cymru fydd y pwysicaf erioed o ran mynnu dyfodol llewyrchus i gymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae posibilrwydd cryf y bydd y system bleidleisio gyfrannol newydd yn 2026 yn arwain at gynghrair neu glymblaid i ffurfio’r Llywodraeth newydd.

Rydym yn galw heddiw ar ein pleidiau gwleidyddol blaengar i gynnwys cynigion radical ar gyfer polisïau tai a chynllunio yn eu maniffestos etholiadol, sef Deddf Eiddo a fydd yn grymuso cymunedau, lleihau anghydraddoldeb a rheoleiddio’r farchnad dai agored.

Deddf Eiddo: dim byd llai!

1 Datganiad Llywodraeth Cymru 05/09/24

2 ‘Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Tachwedd 2024’, Llywodraeth Cymru (cyhoeddwyd 06/02/25)

Ieuan Wyn

Rydym ni fel Cymry Cymraeg yn yr argyfwng mwyaf yn ein hanes, argyfwng bodolaeth, argyfwng parhad. Mi wyddoch chi hynny neu fyddech chi ddim yma heddiw. Ni fu erioed gyn lleied ohonom ni. Ac i feddwl bod y Gymraeg wedi cael ei siarad drwy Gymru gyfan yn ddi-dor ers mil a hanner o flynyddoedd, a’r Frythoneg, mam y Gymraeg, am fil o flynyddoedd cyn hynny. Beth sydd wedi dod â ni i’r fath gyfyngder? Ein gorchfygu fel cenedl yn y drydedd ganrif ar ddeg; ein llyncu’n rhan o Loegr ac esgymuno’n hiaith drwy’r Deddfau Uno yn yr unfed ganrif ar bymtheg; a sefydlu cyfundrefn addysg Saesneg orfodol a gweithredu polisi’r ‘Welsh Not’ yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Dyma gamau clasurol trefedigaethu. Ac mae’r broses o’n Seisnigo wedi arwain at ddatgymalu a diberfeddu’r Gymru Gymraeg ddaearyddol nes cyrraedd ein sefyllfa ni heddiw, efo ond ychydig gymunedau Cymraeg unigol yn weddill, yn dioddef allfudo a mewnfudo. Dwy ochr i’r un geiniog ydy allfudo a mewnfudo – dwy ran un broses. A’r canlyniad? Disodli’r gymdeithas frodorol gan fewnlifiad Saesneg, efo’r gweddill ohonom dan bwysau’r Seisnigo cymdeithasol sy’n dwysáu.
 
Cafodd hyn ei egluro gan Saunders Lewis yn Tynged yr Iaith a chan haneswyr a chymdeithasegwyr proffesiynol, a’r un rhybudd a gawsom ni gan yr athronydd J.R. Jones – fod rhaid inni adnabod y broses o’n dileu ni fel cenedl cyn y medrwn ni ei gwrthsefyll. Dyma’r darlun mawr gwirioneddol, a dyma’r ffaith y mae’n rhaid inni ei chydnabod yn onest heddiw. Fel arall, fyddwn i ddim yn deall yr hyn sy’n digwydd inni, a fyddwn i ddim yn medru goroesi. Cadw’r cymunedau Cymraeg yn fyw ydy hanfod y frwydr genedlaethol.

Beth fydd yna os collwn ni’r bywyd cymunedol Cymraeg naturiol, hanesyddol, di-dor dros fileniwm a hanner? Byddai’n ergyd farwol hefyd i’r diwylliant Cymraeg ym mhob rhan o Gymru. A fyddai yna ddim cynhaliaeth i’r rhai sydd â’r Gymraeg yn ail iaith. Heb y bywyd Cymraeg fydd yna ddim byd ond y bywyd Saesneg a’r diwylliant Eingl-Americanaidd, a sut fedrwch chi ymgadw’n genedl heb hunaniaeth genedlaethol wahanol? Heb wahanrwydd does yna ddim ‘ni’ yn bod.

Fel hyn y disgrifiodd J.R. Jones y profiad o weld colli ein hiaith o’n cwmpas: ‘Dywedir am un profiad ei fod yn un o’r rhai mwyaf ingol sy’n bod, yn llawn ‘torcalon dirwymedi’, sef gorfod gadael daear eich gwlad am byth, – cael eich codi allan gerfydd y gwraidd o dir eich cynefin... Ond y mae yna brofiad arall sydd yr un mor ingol ac yn fwy anesgor, a hwnnw yw’r profiad o wybod, nid eich bod  yn gadael eich gwlad, ond fod eich gwlad yn eich gadael chwi, – yn darfod allan o fod o dan eich traed chwi, yn cael ei sugno i ffwrdd oddi wrthych i ddwylo ac i feddiant gwlad a gwareiddiad arall.’

Ydy’r arswyd o golli’r cwbwl yn gafael digon mewn digon ohonom ni inni weithredu? Mae gofyn inni fynd ati’n egnïol ac yn gadarn fel unigolion cyfrifol ac fel grwpiau yn ein cymunedau unigol. Cynyddu’r pwysau ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, ac mae hi’n hollbwysig bod Plaid Cymru, wrth wynebu etholiad Senedd Cymru, yn cynnwys yn ei maniffesto fwriad i gefnogi dynodi ein cymunedau Cymraeg yn Ardaloedd o Arwyddocâd Ieithyddol Dwysedd Uwch, a bod grymoedd yn cael eu rhoi i’r cynghorau sir er mwyn eu gwarchod a’u cryfhau. Ochor yn ochor â hynny, rhaid inni gael cynghorau cymuned a thref ein hardaloedd i’w diffinio eu hunain yn Ardaloedd o Arwyddocâd Ieithyddol Dwysedd Uwch a’u cael i alw’n daer ar Lywodraeth Cymru a’r cynghorau sir i’w diogelu fel cymunedau Cymraeg. Mae nifer o gynghorau cymuned Llŷn eisoes wedi rhoi arweiniad yn hyn o beth, a da hynny. Dylai Cyngor Gwynedd a chynghorau sir eraill roi’r gorau i ganiatáu codi stadau tai cymdeithasol sy’n rhy fawr i’r cymunedau. Mae’r polisi presennol mewn cydweithrediad â’r cymdeithasau tai yn medru gwanychu a hyd yn oed ddryllio gwead a strwythur cymdeithasol Cymraeg ein cymunedau. Dylid gweithredu Polisi Gosod a Gwerthu Lleol mewn cydweithrediad â’r cynghorau cymuned a thref.

Beth am inni i gyd ymdynghedu yma heddiw yng ngwlad Llŷn y byddwn ni’n dyblu’n hymdrechion ac yn ymgyrchu’n fwy taer ac yn fwy effeithiol i sicrhau hyn a hynny ar frys. Efo’n gilydd mi fedrwn ni, ac mae’n rhaid inni. Awn ati.

Iwan Rhys Evans

Yn gyntaf hoffwn ddiolch i chi gyd am ddod yma. A croeso i dref forwrol Nefyn.

Wrth i ni sefyll yma heddiw, mae cymaint o gymunedau hen a Chymreig yn diflannu. Cymunedau lle mae ein tadau a chyn-dadau wedi byw ers ganrifoed yn cael eu colli am byth.

Yn anffodus mae Abersoch yn dangos i ni be sydd am ddigwydd i'n cymunedau os nad ydyn nu yn neud wbath nawr! Ma rhaid i ni sefyll fyny i'n hunain i wahardd unrhyw bentref droi mewn i Abersoch arall.

Dychmygwch bentref bach sydd wedi siarad Cymraeg ers canrifoedd, pentref lle mae plant yn cael eu addysg yn yr Gymraeg, lle mae pobl yn sgwrsio yn Gymraeg, a lle mae sain yr iaith yn llenwi'r awyr. Nawr, dychmygwch y pentref hwn yn cael ei drawsnewid yn dref ysbrydion lle mai'r unig Gymraeg a glywch ar wefusau ychydig o siaradwyr oedrannus. Nid yw'r iaith yn atyniad i dwristiaid; mae'n rhan fyw o'n hunaniaeth. Os byddwn yn caniatáu i berchnogaeth ail gartrefi barhau, rydym mewn perygl o golli’r iaith honno am byth

Mae ymdrech ein hachos yn gweithio, mae'r prisau yn dechra dod lawr ac mae'r arwyddion ar werth yn dod fyny. Ond mae rhaid i ni gario mlaen ei'n achos i sicarhau fod en plant ni byth yn gorfod cynnal rali i gael byw yn eu milltir sgwâr.

Fel unigolyn or ardal yma, fy mwriad i yw byw yma, sefydlu cartef yma ac yn y dyfodol mynd â fy mhlant i'r un ysgol â fi pan o'n i yn fachgen. Does genym ni ddim cyfle arall, hwn ydi'r ynig gyfle i sicarhau fod ein cymunedau am fod yn lleol.

Mae Llywodraeth Caerdydd o dan afael Llafur wedi dangos i ni nad oes ots ganddyn nhw am yr Iaith Gymraeg nac sicarhau dyfodol i'r genhedlaeth nesaf.

Mae dros 17 o gynghorau yng Nghymru wedi dangos eu cefnogaeth i ddatganoli ystâd y goron yng Nghymru. Ac o'r diwadd ma Llwodraeth Caerdydd o dan Lafur wedi gwrando arna ni.

Wrth i etholiad y Senedd ddod o gwmpas y flwyddyn nesaf, cofiwch y blaid wleidyddol oedd yma yn gwrando ar ein achos, A chofiwch hefyd am y pleidiau gwleidyddol sydd ddim yma. Mae eu absenoldeb heddiw yn anfon neges glir atom.

Wrth gloi, nid yw mater ail gartrefi yn ymwneud â’r economi’n unig; mae’n ymwneud â chadw diwylliant, yr iaith, a traddiodiad Cymru.

Gadewch inni sefyll gyda’n gilydd i amddiffyn calon Cymru – ein iaith, ein hanes a’n pobl.