Gruff Rhys i Chwarae yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

Rydyn ni'n falch o gyhoeddi y bydd y canwr Gruff Rhys yn cynnal gig mawr ar Nos Wener wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Neuadd William Aston ar gampws Prifysgol Wrecsam.

Wrth gyhoeddi'r newydd, dywedodd Nia Marshall ar ran Pwyllgor Trefnu Lleol y Gymdeithas
"Dyma'r tro cyntaf ers 2005 i Gruff chware'n ystod wythnos yr Eisteddfod, a tydy o rioed wedi chware o'r blaen efo'r band llawn.
"Rydyn ni'n falch iawn o bartnera gyda Theatr Clwyd (sy'n trefnu Neuadd William Aston yn Wrecsam) i drefnu'r noson hon a dwy noson fawr arall, a hynny ar ben y gigs bob nos yn y Saith Seren - y dafarn Gymraeg a fydd yn gartre i ni trwy'r wythnos. Mae'n gyfnod cyffrous newydd i Gruff Rhys wrth iddo ryddhau yr haf hwn deunydd Cymraeg newydd."

Yn chwarae gyda Gruff Rhys a'r Band fydd Griff Lynch (o'r Ods gynt) a'i fand newydd, Ynys a Wrkhouse.

Dywedodd Gruff Rhys:
"Dwi’n edrych mlaen yn arw i ddod â grŵp nôl i Wrecsam i ganu set yn y Gymraeg er budd Cymdeithas yr Iaith. Hon fydd fy unig gig yn y steddfod eleni."

Bydd tocynnau i weld Gruff Rhys ar werth o 10am ddydd Mawrth 13 Mai yma ac ar wefan Neuadd William Aston.
Byddan nhw ar werth yn uned Cymdeithas yr Iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Margam ddiwedd y mis.

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn trefnu bysiau o Neuadd William Aston ar ddiwedd y noson i faes carafannau yn Eisteddfod.