
Wedi i Senedd Cymru heddiw wrthod nifer o welliannau i Fil y Gymraeg ac Addysg, gan gynnwys gwelliant fyddai wedi cynnwys targed yn y Bil o ran faint o blant fydd yn cael addysg Gymraeg erbyn 2050, mae perygl na fydd y Bil yn gwneud llawer mwy na pharhau â’r drefn fel ag y mae.
Dywedodd Toni Schiavione, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Mae’r Llywodraeth a’r Senedd wedi colli cyfle unwaith mewn cenhedlaeth heddiw, all olygu y bydd mwyafrif plant Cymru yn parhau i gael eu hamddifadu o addysg Gymraeg am ddegawdau i ddod.
“Mae wedi ei gydnabod mai addysg cyfrwng Cymraeg yw’r unig ffordd o sicrhau bod siaradwyr Cymraeg hyderus yn cael eu creu drwy’r system addysg. Ac fe wnaeth arolwg barn diweddar ddangos bod 67% o bobl yn credu y dylai ysgolion anelu i addysgu pob disgybl i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, felly mae dymuniad pobl Cymru yn glir.”
Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i ymgynghori ar osod targed yn y Bil ar gyfer canran y plant fydd yn cael addysg Gymraeg, fel rhan o ymgynghoriad ar strategaeth y Gymraeg. Mae perygl na fydd hynny’n digwydd os na fydd yn digwydd yn ystod y Senedd bresennol.
Ychwanegodd Toni Schiavone:
“Rydyn ni’n falch bod bwriad i ymgynghori er mwyn cynnwys targed addysg Gymraeg yn y Bil fydd yn clymu llywodraethau’r dyfodol i’r nod, a byddwn ni’n ymgyrchu i sicrhau bod hyn yn digwydd cyn etholiadau 2026. Ond y gwir amdani yw bod diffyg targed wedi bod yn wendid amlwg yn y Bil ers ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf. Fe ddylai targed fod wedi ei gynnwys ar wyneb y bil heddiw, a’n gwleidyddion ni ein hunain yn Senedd Cymru sydd wedi atal hynny rhag dod yn realiti.”
Yn ystod y drafodaeth, roedd tri aelod o Gymdeithas yr Iaith yn bresennol yn gwisgo crysau-t yn galw am darged yn y Bil yn weledol i Aelodau’r Senedd. Cafodd y tri eu hel o’r siambr.