Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith

2025-10-04

Cartref > Newyddion > Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith

Llun o Owain Meirion

Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith: angen i dymor nesaf y Senedd fod yn “drobwynt” i’r iaith

Yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith heddiw (dydd Sadwrn, 4 Hydref), cyhoeddwyd mai Owain Meirion yw Cadeirydd cenedlaethol newydd y mudiad.

Yn wreiddiol o Ddolgellau, mae Owain bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio yn Senedd Cymru. 

Mae Owain wedi bod yn weithgar gyda’r Gymdeithas ers sawl blwyddyn. Bu’n gweithio fel Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol i’r mudiad rhwng 2023 a 2025, ac ers hynny, mae wedi parhau fel aelod o grwpiau ymgyrch Addysg a Digidol Cymdeithas yr Iaith.

Meddai Owain ar ôl cael ei ethol yn gadeirydd cenedlaethol: 

“Hoffwn ddiolch i Joseff am ei waith dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae’n anrhydedd enfawr cael fy ethol yn gadeirydd ar fudiad sy’n hynod agos at fy nghalon ac ar adeg mor dyngedfennol i’r iaith.

“Ar drothwy etholiad ar gyfer ein seithfed Senedd genedlaethol, yn anffodus does dim tystiolaeth bod sefyllfa’r iaith yn sefydlog, na bod ymdrechion Llywodraeth Cymru hyd yma wedi bod yn effeithiol o ran gwrthdroi’r dirywiad.

“Mae’n rhaid i dymor nesaf y Senedd fod yn drobwynt i'r iaith os yw hi am barhau fel iaith fyw, a fydd hynny ond yn digwydd trwy fuddsoddiad - nid geiriau.”

Meddai Joseff Gnagbo wrth drosglwyddo’r awenau fel cadeirydd:

“Llongyfarchiadau mawr i Owain ar gael ei ethol yn gadeirydd. Mae ganddo weledigaeth amlwg a bydd yn dod â brwdfrydedd ac egni newydd i’r mudiad mewn cyfnod pwysig. Diolch i bawb am eu cefnogaeth yn ystod fy nghyfnod wrth y llyw, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio o dan arweiniad Owain dros y flwyddyn nesa er mwyn mynnu gwell i'r Gymraeg a'n cymunedau.”

Pob newyddion