Cyfrannu £1,000 tuag at gymorth dyngarol yn Gasa
2025-10-10
Cartref > Newyddion > Cyfrannu £1,000 tuag at gymorth dyngarol yn Gasa
Cymdeithas yr Iaith yn cyfrannu £1,000 tuag at gymorth dyngarol yn Gasa
Wrth i gadoediad i’r rhyfel yn llain Gasa ddechrau, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyfrannu £1,000 tuag at Gymorth Meddygol i Balesteina (Medical Aid for Palestine, MAP) a galw am lwybr clir i sicrhau heddwch, gwladwriaeth a hawliau i bobl Palesteina.
Daw’r cadoediad wrth i Hamas a llywodraeth Israel gytuno i gynllun heddwch arfaethedig gan Donald Trump, arlywydd Unol Daleithiau America, ac i gymorth dyngarol rhyngwladol gael ei ganiatáu i gyrraedd llain Gasa eto.
Dywedodd Owain Meirion, Cadeirydd y Gymdeithas:
“Ar bob cam o’r ffordd, mae’r llywodraeth sy’n ein cynrychioli ni yng Nghymru ar y llwyfan rhyngwladol – Llywodraeth y DU – wedi bod yn gywilyddus o araf yn cydnabod hawl pobl Palesteina i hunan-lywodraeth, rhoi pwysau ar Israel am ddiwedd i’r rhyfel, a gweithio tuag at setliad sy’n gwarantu heddwch, gwladwriaeth a diogelwch i bobl Palesteina.
“Mae’r Gymdeithas fel mudiad yn cyd-sefyll â phobloedd dan ormes lle bynnag maen nhw, ac mae ein brwydr dros gyfiawnder yn rhan o frwydr fyd-eang dros gyfiawnder. Mae dyletswydd moesol arnom i fod yn llais dros bobl Palesteina, ac rydym yn gobeithio y bydd ein cyfraniad ariannol o gymorth i leddfu rhywfaint ar eu dioddefaint.”