Ysgol Meidrim a'r Fari Lwyd: Cerdyn Calan i'r Cyngor
2026-01-13
Cartref > Newyddion > Ysgol Meidrim a'r Fari Lwyd: Cerdyn Calan i'r Cyngor
Bydd y Fari Lwyd yn ymuno â phlant, rhieni a llywodraethwyr Ysgol Meidrim i guro ar ddrws pencadlys Cyngor Sir Gâr yn brydlon am 9yb fore Mawrth (13/01).
Bydd y Fari Lwyd yn ceisio mynediad i gyflwyno cerdyn calan wedi ei arwyddo gan holl ddisgyblion Ysgol Meidrim gyda chais i'r cyngor wneud adduned blwyddyn newydd i gydweithio â chymunedau lleol, yn hytrach na'u diystyru, er mwyn achub a datblygu ysgolion lleol.
Mae hyn i nodi agor ymgynghoriad statudol ar gynnig i gau Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro, Llangyndeyrn. Mae Llywodraethwyr y ddwy ysgol a Chymdeithas yr Iaith yn annog ymatebion i'r ymgynghoriad, fydd ar wefan y Cyngor Sir.
Dywedodd Aled Davies ar ran Rhanbarth Sir Gâr Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'n bwysig nad yw ymgynghoriad statudol yn gyfyngedig i dderbyn cyfraniadau ysgrifenedig yn unig. Dylai fod yn gyfle am drafodaethau adeiladol gyda'r gymuned.
"Gobeithio bydd y deilydd portffolio addysg, Glynog Davies, ac arweinydd y Cyngor, Linda Evans, yn derbyn gwahoddiad y llywodraethwyr, rhieni a phlant Ysgol Meidrim i ddod i drafod y cynlluniau cyffrous sydd ganddynt ar gyfer yr ysgol."