Cymdeithas yr Iaith yn penodi dau swyddog cyflogedig newydd
2025-05-20
Cartref > Newyddion > Cymdeithas yr Iaith yn penodi dau swyddog cyflogedig newydd
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi penodi dau aelod o staff newydd, Cadi Mair Williams a Katie Phillips, i arwain ar waith cyfathrebu a chysylltiadau gwleidyddol y mudiad.
Cafodd Katie Phillips o Ferthyr Tudful ei magu fel siaradwr Cymraeg cenhedlaeth gyntaf ei theulu. Ar ôl astudio ar gyfer gradd ym Mhrifysgol Abertawe, cafodd Katie ei hethol yn Swyddog Materion Cymreig ac yna yn Llywydd Undeb Myfyrwyr y Brifysgol cyn ymuno â’r Gymdeithas.
Dywedodd Katie:
"Mae gwaith y Gymdeithas yn bwysig i mi oherwydd ei hymrwymiad i hyrwyddo a diogelu iaith a diwylliant Cymru. Rwy’n falch o gael y cyfle i gyfrannu at ffyniant y Gymraeg a gwneud gwahaniaeth i’n cenedl."
Magwyd Cadi Mair Williams yn un o gadarnleoedd y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin, ond mae bellach wedi ymgartrefu yn Sir Ddinbych. Cyn ymgymryd â’r swydd, cyflawnodd radd PhD mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor yn ymchwilio i greadigrwydd y Cymry Cymraeg ym myd adloniant Cymru yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf.
Dywedodd Cadi:
"Yn Gymraes i’r carn, rwy’n teimlo’n angerddol dros ddyfodol y diwylliant a’r iaith, ac yn credu’n gryf y dylai safle’r Gymraeg fod yn gydradd â ieithoedd eraill y byd. Mae’n fraint felly cael gweithio i fudiad sydd wedi bod allweddol i barhad y Gymraeg dros yr holl flynyddoedd."
Yn ogystal â’r llu o ymgyrchwyr sy’n cyfrannu at waith y mudiad yn wirfoddol, mae’r penodiadau diweddaraf yn golygu bod tîm o bedwar erbyn hyn yn rhan o staff Cymdeithas yr Iaith. Bydd cyfrifoldebau’r swyddogion newydd yn cynnwys arwain ar waith cyfathrebu, polisi ac ymgysylltu gwleidyddol ar draws meysydd ymgyrchu’r Gymdeithas.
Dywedodd Joseff Gnagbo, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Rydyn ni’n falch o groesawu nid un, ond dau aelod newydd o staff i dîm Cymdeithas yr Iaith. Daw Katie a Cadi â phrofiadau a sgiliau unigryw i’r swydd ac mae’n amlwg yn barod pa mor ffodus ydyn ni o fod wedi eu penodi i’r swyddi yma.
"Dyma ddatblygiad cyffrous a phwysig i’r mudiad a fydd yn ein galluogi i gryfhau ein cenhadaeth a’n gwaith ymgyrchu er mwyn sicrhau dyfodol ffyniannus i’r Gymraeg fel iaith gymunedol fyw."