Galw am berchnogaeth leol a chymunedol o eiddo mewn rali
2025-11-01
Cartref > Newyddion > Galw am berchnogaeth leol a chymunedol o eiddo mewn rali
Cynhaliwyd rali Nid yw Cymru ar Werth gan Gymdeithas yr Iaith ym Methesda ar ddydd Sadwrn 1af o Dachwedd i ddathlu ac annog ymdrechion cymunedol i greu cartrefi, gwaith ac ynni i bobl leol.
Daeth ymgyrchwyr ynghyd i brotestio yn erbyn diffyg gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng tai cyn etholiad y Senedd yn 2026, a galw ar gymunedau lleol ledled Cymru i gymryd y grym i’w dwylo eu hunain.
Ymhlith siaradwyr y rali, roedd Siân Gwenllian AS, Mel Davies, Jaci Cullimore, Osian Jones a Huw Williams (Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor).
Ar ran Cymdeithas yr Iaith, dywedodd y cadeirydd y mudiad, Owain Meirion:
“Mae’r argyfwng tai yn ein cymunedau yn fwy nag ail gartrefi a llety gwyliau yn unig. Rydym yn gwybod fod prisiau tai i’w prynu a’u rhentu ar y farchnad agored yn cynyddu’n llawer cyflymach na chyflogau lleol ac mae rhestrau aros ar gyfer tai cymdeithasol yn gywilyddus o hir.
“Dydy’r Llywodraeth ddim yn gweithredu a does dim arwydd y bydd yn gwneud unrhyw beth cyn yr etholiad felly mae angen i gymunedau gymryd grym i’w dwylo, a dyna yw ffocws y rali yma. Ar yr un pryd mae angen gweld polisiau fwy rhagweithiol ar gynyddu’r gyfran o dai mewn perchnogaeth gyhoeddus a chymunedol er mwyn sicrhau hawl pawb yng Nghymru i gartref.”
Yn ystod ei haraith, dywedodd Sian Gwenllian AS:
“Dyma un o ymgyrchoedd pwysig Cymdeithas yr Iaith ers blynyddoedd wrth gwrs ac o'r diwedd, mae hyn o fewn ein gafael. Ni fydd deddf yn ei hun ddim yn ddigon i greu newid wrth gwrs ond dwi yn gwbl grediniol mai dyma sydd ei angen i yrru'r newid mawr – creu hawl sylfaenol a'i osod yn rhan ganolog o gyfraith Cymru. Yna bydd rhaid gweithredu i wireddu'r hawl honno.”
Mae'r areithiau i'w gweld yn llawn yma: https://www.youtube.com/watch?v=NuMFedbn36c
Yn dilyn y rali yn Neuadd Ogwen cynhaliwyd cyfarfod lle clywyd gan Fentrau Cymunedol Partneriaeth Bro Ogwen, Cynllun Tai Cymunedol Bro Machno a Llety Arall sut yr aethon nhw ati i gymryd y grym i’w dwylo eu hunain, a sut gall eraill ddilyn eu hesiampl.
Mae lluniau’r rali i’w gweld yma: https://drive.google.com/drive/folders/1iGQaMhisKGyJVQ5NVnj9HASfyvOojocZ