
Mewn rali yn galw am “addysg Gymraeg i bawb”, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw i Fil y Gymraeg ac Addysg wneud mwy na chadarnhau mewn deddf y ddarpariaeth addysg Gymraeg sydd ar gael ar hyn o bryd.
Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno’r Bil ers yr haf a’r Senedd yn ei drafod ar hyn o bryd. Yn gynharach yr wythnos hon roedd un o bwyllgorau’r Senedd yn ystyried cyfres o welliannau i’r Bil fyddai wedi gosod targedau statudol ar gyfer cynyddu'r ganran o blant mewn addysg Gymraeg, cynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion sy’n dysgu drwy’r Saesneg ar hyn o bryd, a sicrhau cyllid digonol i uwchraddio sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg. Gwrthododd y pwyllgor bob gwelliant o sylwedd, sy’n golygu, yn ôl ymgyrchwyr iaith, nad yw’r Bil yn gwneud llawer mwy na chadarnhau’r status quo.
Wrth annerch y dorf yn y rali, dywedodd Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith:
“Rydyn ni eisiau gweld pob person ifanc yn gadael yr ysgol yn medru’r iaith, nid y lleiafrif ffodus yn unig. Rydyn ni eisiau gweld gwlad lle’r Gymraeg yw’r norm, yn iaith naturiol ymhob cymuned a phob rhan o fywyd.
“Dyna pam 'dyn ni’n galw am ddeddf addysg Gymraeg i bawb fydd yn cynnwys, ymysg mesurau eraill, gosod targedau statudol ar wyneb y ddeddf i dyfu addysg Gymraeg ar lefel lleol a chenedlaethol a gosod nod hirdymor o droi pob ysgol yn ysgol cyfrwng Cymraeg
Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth yw’r bil yma. Rhaid inni felly beidio â cholli’r cyfle, a cholli cenhedlaeth arall o blant i system sy’n eu gadael nhw lawr.”
Hefyd yn siarad roedd Kiera Marshall, sydd wedi bod drwy’r ysgol yng Nghymru ond wedi gorfod dysgu’r Gymraeg fel oedolyn. Wrth annerch y dorf dywedodd hi:
"Dw i'n dysgu Cymraeg ers mis Medi 2021. Ond, nid yw hynny'n wir. Dw i'n dysgu Cymraeg ers ysgol gynradd. Ond gadewais i'r ysgol yn methu siarad Cymraeg – bron o gwbl… Dw i'n drist i ddweud – fi yw'r mwyafrif. Fi yw'r wyth deg y cant. Methodd system addysg Cymru fi. Allwn ni ddim gadael i hyn ddigwydd i'n pobl ifanc."
Ar ddiwedd y rali, cafodd cardiau yn galw am gryfhau Bil y Gymraeg ac Addysg drwy osod targed o addysg Gymraeg i bawb eu gadael at sylw’r ysgrifennyd cabinet sy’n gyfrifol, Mark Drakeford.
Mae lluiniau'r rali i'w gweld trwy bwyso yma