Rhaid newid system ariannu'r prifysgolion

Mae'r pryderon am doriadau mewn prifysgolion ar draws y wlad ar hyn o bryd yn dangos bod rhaid newid system ariannu'r prifysgolion.

Galwn ar y Llywodraeth i roi’r sector addysg uwch ar seiliau mwy cadarn gydag ariannu digonol, ac i ystyried gwerth am arian cyllido myfyrwyr i astudio tu allan i Gymru. Yn ystod 2023-24, gwariodd Llywodraeth Cymru £553,473,000 ar gostau byw a ffioedd dysgu myfyrwyr o Gymru sy'n dewis dilyn eu haddysg uwch y tu allan i Gymru.

Meddai Toni Schiavone ar ran Cymdeithas yr Iaith:
"Mae gyda ni bryderon mawr am y toriadau niweidiol yma i addysg uwch, gan gynnwys yr effaith ar addysg Gymraeg. Mae’r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi dweud mai mater i’r prifysgolion eu hunain yw hyn ond mae'n amlwg bod y gyfundrefn bresennol yn methu. Mae heriau ariannol difrifol yn wynebu pob prifysgol ac maen nhw’n gweithredu fwyfwy fel busensau yn hytrach na sefydliadau addysg sy’n gwasanaethu cymunedau a phobl. Mae angen i’r Llywodraeth gyflwyno gweledigaeth a model hyfyw ar gyfer y sector addysg uwch.
“Un peth penodol mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ei wneud yw ystyried a yw gwario hanner biliwn o bunnoedd o’i chyllideb flynyddol ar ariannu myfyrwyr i astudio yn Lloegr yn cynnig gwerth am arian i drethdalwyr Cymru. Mae hyn yn arian sylweddol a ddylai gael ei fuddsoddi ym mhrifysgolion Cymru, yn enwedig mewn cyfnod o galedi.

Allfudiad

Ychwanegodd Toni Schiavone:
“Rydyn ni’n gwybod hefyd bod allfudiad siaradwyr Cymraeg yn un o’n prif broblemau fel gwlad, ac mae polisi fel hyn, yn enwedig ochr yn ochr â chynlluniau fel Seren sy’n annog rhai o’n pobl ifanc ddisgleiriaf i adael y wlad er mwyn astudio yn y brifysgol, yn cyfrannu’n uniongyrchol at y broblem sylweddol hon. O dan y drefn ariannu bresennol, dim ond tua 60% o fyfyrwyr Cymru sy'n dewis astudio yng Nghymru, tra bod dros 95% o fyfyrwyr Lloegr a'r Alban yn aros yn eu gwledydd eu hunain i astudio. Mae’n rhaid i rywbeth newid.
“Ar hyn o bryd rydyn ni'n ariannu myfyrwyr i astudio mewn gwlad arall pan fo'r union gyrsiau gyda ni yng Nghymru, a'r rheiny yn gyrsiau o safon, a thra bod mawr angen cymorth ariannol ar brifysgolion Cymru."