Bydd Bil y Gymraeg ac Addysg yn cael ei drafod yn y Senedd ddydd Mawrth 6 Mai.
Mae'n ddarn o ddeddfwriaeth a ddylai fod yn bellgyrhaeddol, dylai fod yn sicrhau bod pobl disgybl yn derbyn addysg Gymraeg ac yn gadael yr ysgol yn siarad Cymraeg yn hyderus.
Ar hyn o bryd does dim un targed yn y Bil o ran canran y plant fydd yn cael addysg Gymraeg erbyn cyfnod penodol, felly mae'n debygol y bydd y system addysg Gymraeg yn parhau fel ag y mae ar hyn o bryd, ac yn amddifadu 80% o blant rhag gallu siarad Cymraeg yn hyderus.
Mae Cefin Campbell AS yn cynnig gwelliant i’r Bil a fydd yn gosod targed yn y Bil y bydd 50% o blant yn cael addysg Gymraeg erbyn 2050. Er na fyddai'r gwelliant yn arwain at gynnydd digonol mae'n hanfodol i sicrhau bod cynnydd tuag at addysg Gymraeg i bawb, achos yn y Bil fel mae ar hyn o bryd does dim targed o gwbl.
Danfonwch y neges yma at eich Aelodau o'r Senedd. Gallwch ei addasu cyn danfon a thynnu'r llythyr Saesneg os yw eich Aelodau o'r Senedd yn siarad Cymraeg, neu ei ddanfon fel ag y mae.
Noder y bydd y neges yn mynd at yr Aelod sy'n cynrychioli eich etholaeth a'ch rhanbath