Mewn cyfarfod ar 28 o Ebrill fe wnaeth Cabinet Cyngor Penfro benderfynu y dylid gofyn am resymau pobl dros ddewis addyg Gymraeg.
Bydd y Cabinet yn ailystyried y penderfyniad hynny ddydd Mercher 21 o Fai. Dyma lythyr Cymdeithas yr Iaith at y Cabinet.
Annwyl Aelod Cabinet
O flaen eich cyfarfod ddydd Mercher gofynnwn i chi ailystyried eich penderfyniad i ofyn pam bod rhieni a disgyblion yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg.
Cytunwyd i wneud hynny yn ystod trafodaeth ar Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y cyngor, sydd yn cynllunio ar gyfer twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Dylai'r Cyngor fod yn canolbwyntio ar gynyddu'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn hytrach na gofyn pam bod pobl yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae rhan sylweddol o'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg wedi dod trwy ei fynnu a brwydro amdano, a dydy addysg cyfrwng Cymraeg ddim ar gael yn ddiofyn nac yn hawdd ym mhob rhan o'r sir o hyd.
Mae gofyn am resymau dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg yn rhoi argraff bellach nad addysg cyfrwng Cymraeg yw'r norm.
Yn yr un ffordd mae'r cysyniad o fesur y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn rhoi'r un argraff, does dim mesur y galw am addysg Saesneg ac yn sicr ni fyddai gofyn i rywun pam eu bod nhw'n dewis addysg Saesneg.
Yn olaf, dydyn ni ddim yn gweld ei bod yn broblem bod rhieni yn dewis danfon eu plant i ysgolion Cymraeg oherwydd bod safon yr addysg yn dda. Nid yn unig bod hynny'n beth ddylai fod yn destun balchder i ysgolion Cymraeg, ond mae'r ffaith bod plant yn derbyn addysg dda sydd hefyd yn Gymraeg ac yn gadael yr ysgol yn ddwyieithog, yn beth da.
Am y rhesymau hynny, gofynnwn i chi beidio mynd ymlaen i ystyried rhesymau dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg ac yn hytrach bod canolbwyntio ar ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir a gwneud mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yn hygyrch ym mhob rhan o'r sir.
Bethan Williams
ar ran Rhanbarth Caerfyrddin-Penfro