Galw ar Aelodau’r Senedd i gefnogi gwelliant “annigonol ond hanfodol” i gynlluniau addysg Gymraeg

Wythnos cyn trafodaeth hollbwysig yn y Senedd ar Fil y Gymraeg ac Addysg, rydyn ni wedi galw ar Aelodau’r Senedd o bob plaid i gefnogi gwelliant i’r Bil sydd wedi’i gyflwyno gan Cefin Campbell AS, a fyddai’n golygu gosod targed yn y Bil y bydd 50% o blant yn cael addysg Gymraeg erbyn 2050.

Daw’r alwad er gwaetha’r ffaith ein bod ni'n ymgyrchu ers sawl blwyddyn dros addysg Gymraeg i bawb (100%). Ar hyn o bryd, dim ond tua 20% o blant sydd mewn addysg Gymraeg. Nid yw’r Bil yn ei ffurf bresennol yn cynnwys unrhyw darged o gwbl ynghylch faint o blant fydd mewn addysg Gymraeg yn y dyfodol.

Nod Bil y Gymraeg ac Addysg yw sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn cael addysg Gymraeg dros amser, ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio bod y Bil fel ag y mae yn debygol o fethu, a bod rhaid gosod targed statudol yn y Bil er mwyn sicrhau cynnydd tuag at y nod o addysg Gymraeg i bawb.

Rydyn ni'n galw felly ar Aelodau’r Senedd o bob plaid i gefnogi’r gwelliant i gael targed o 50% yn y Bil yn y drafodaeth cam 3 ar y Bil a gynhelir ddydd Mawrth 6 Mai.
Meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
“Rydyn ni’n falch bod ein Llywodraeth a’n Senedd yn deddfu yn y maes, ond mae diffyg targed addysg Gymraeg yn y Bil yn wendid sylfaenol fydd yn golygu na fydd y Bil yn llwyddo fel y mae.
“Drwy’r gwelliant yma, byddai targed bod hanner ein plant mewn addysg Gymraeg erbyn 2050 yn cael ei gynnwys yn y Bil ei hunan, gan glymu llywodraethau’r dyfodol yn gyfreithiol i’r nod.
“Rydyn ni’n gwbl glir mai’r nod yw addysg Gymraeg i bawb, ac rydyn ni’n siomedig nad yw’n gwleidyddion wedi dilyn y trywydd yma. Fodd bynnag, mae’r ffaith nad oes targed addysg Gymraeg o gwbl yn y Bil ar hyn o bryd yn wendid mor sylfaenol, rydyn ni’n gweld y gwelliant yma fel un annigonol ond hanfodol er mwyn sicrhau bod cynnydd tuag at addysg Gymraeg i bawb, sy’n fater o gyfiawnder i genedlaethau’r dyfodol.”

Bydd Bil y Gymraeg ac Addysg, a’r holl welliannau sy’n cael eu cynnig iddo, yn cael eu trafod ar lawr y Senedd ddydd Mawrth 6 Mai, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar wleidyddion o bob plaid i gefnogi’r gwelliant i osod nod yn y Bil ei hunan y bydd 50% o blant mewn addysg Gymraeg erbyn 2050.