Rydym yn croesawu’r bwriad i ddeddfu’n y maes hwn, ac yn falch o weld consensws trawsbleidiol dros amcanion y Bil yn y broses graffu hyd yma. Derbynia pob plaid wleidyddol bellach bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru, y dylai’r iaith fod yn hawl sylfaenol i bob plentyn yng Nghymru, a bod angen deddfwriaeth flaengar er mwyn gwireddu hyn.