Nid yw Cymru ar Werth - galwadau Cymdeithas yr Iaith ar Lywodraeth Cymru

Mae gan bawb yr hawl i gartref yn eu cymuned. Ond mae llywodraethau San Steffan a’r Senedd dros y degawdau wedi trin tai fel eiddo i wneud elw, yn lle cartrefi, a blaenoriaethu cyfalaf yn lle cymunedau. Mae’r canlyniadau wedi bod yn drychinebus i bobl gyffredin Cymru, ein cymunedau a’r Gymraeg — ac maen nhw’n gwaethygu. 

Nid oes rhaid i’r sefyllfa fod fel hyn. Gyda’r camau polisi iawn, gallwn sicrhau cartref i bawb, a chymunedau cryf, Cymraeg ymhob rhan o’r wlad. 

Mae'r daflen hon yn amlinellu ein galwadau ar y Llywodraeth i newid hyn.

AtodiadMaint
NYCAW - galwadau ar y Llywodraeth.pdf27.23 KB