Grwp Cymunedau Cynaliadwy

Home > Events > Grwp Cymunedau Cynaliadwy

Cyfarfod dros Zoom fydd y cyfarfod hwn o Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith. Dyma'r grŵp sy'n ymgyrchu dros ddiogelu cymunedau Cymru.

Y brif ffocws ar hyn o bryd yw'r ymgyrch i sicrhau Deddf Eiddo ac yn y cyfarfod byddwn yn ffocysu ar ein strategaeth dros y misoedd nesaf yn arwain at etholiadau Senedd Cymru.

Mae'r grŵp bob amser yn chwilio am aelodau newydd. Os oes gennych ddiddordeb yn y maes, cysylltwch i gael eich ychwanegu at y rhestr ac, os nad ydych chi'n siwr, beth am fynychu cyfarfod neu ddau er mwyn cael gweld beth yw beth.

All events