Mae'n bleser gennym heddiw lansio ein dogfen weledigaeth 'Mwy Na Miliwn - Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb'.
Yn y ddogfen, rydym yn galw ar lywodraeth nesaf Cymru i fynd tu hwnt i'r nod bresennol o filiwn o siaradwyr drwy sefydlu dinasyddiaeth Gymraeg i bawb a sicrhau fod cyfleoedd ar gael i bobl ddefnyddio'r iaith ymhob agwedd o fywyd.
Er mwyn cyflawni'r nod yma, bydd angen i'r llywodraeth nesaf (ymhlith pethau eraill):
- Greu 1,000 o ofodau uniaith Gymraeg newydd
- Sefydlu Menter Ddigidol Gymraeg
- Fuddsoddi 1% o wariant y Llywodraeth, neu £186 miliwn y flwyddyn, mewn prosiectau i hyrwyddo’r Gymraeg
- Basio Deddf Addysg Gymraeg i Bawb.
Darllenwch ein gweledigaeth yn llawn isod.