Dyfodol Digidol

Cartref > Ymgyrchoedd > Dyfodol Digidol

Grŵp Dyfodol Digidol Cymdeithas yr Iaith yw’r grŵp sy'n ymgyrchu dros hawliau, amlygrwydd a defnydd y Gymraeg ym maes darlledu, cyfathrebu a thechnoleg.

Rydyn ni’n credu y dylai’r iaith fod yn amlwg ar bob cyfrwng darlledu a chyfathrebu, a bod gan bawb hawl i ddefnyddio, gwrando, darllen a gwylio’r Gymraeg.

Nodir isod ein prif ymgyrchoedd ar hyn o bryd.

  • Datganoli Grymoedd Darlledu i Gymru: Rydyn ni’n credu bod angen datganoli'r holl rymoedd dros ddarlledu a chyfathrebu i Gymru er mwyn cryfhau ein democratiaeth a sefyllfa’r iaith. Gyda'r pwerau hyn, bydd yn bosib sefydlu rhagor o lwyfannau cyfryngol Cymraeg a Chymreig, a sicrhau bod mwy o gynnwys Cymraeg a Chymreig ar orsafoedd radio, sianeli teledu a llwyfannau digidol presennol. Bydd hefyd yn bosib sefydlu system ddarlledu a chyfathrebu sydd wedi’i gwreiddio yn ein cymunedau, ac sydd wedi’i strwythuro o amgylch eu hanghenion
     
  • Menter Ddigidol Gymraeg: Rydyn ni’n galw am sefydlu corff newydd i greu cynnwys Cymraeg ar-lein er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg ar lwyfannau digidol lle nad oes llawer o gynnwys ar hyn o bryd. Prif nod y Fenter Ddigidol Gymraeg fydd cynyddu cyfleoedd i weld, clywed, creu a defnyddio'r Gymraeg ar draws llwyfannau ar-lein ac yn ddigidol.
     
  • Hawliau i'r Gymraeg Ar-lein: Rydyn ni’n ymgyrchu dros wella presenoldeb y Gymraeg ar gyfryngau o bob math, o radio lleol i wasanaethau ar-lein. Dylai corfforaethau enfawr, fel Google, Amazon a Facebook, ddarparu eu gwasanaethau ar-lein yn Gymraeg. Rydyn ni’n ymgyrchu dros strwythurau digidol ac ar-lein agored – sydd ddim yn gaeth i gorfforaethau mawr – er mwyn sicrhau mynediad cyfartal i bawb, gan gynnwys ieithoedd lleiafrifedig ledled y byd.

Rydyn ni bob amser yn awyddus i groesawu aelodau newydd i'r grŵp. Os oes gennych chi ddiddordeb yn unrhyw ran o'r maes darlledu neu faterion digidol, neu os ydych chi eisiau ymgyrchu ar fater pwysig i chi, cysylltwch i gymryd rhan!

Mae’r Grŵp Dyfodol Digidol yn cwrdd dros Zoom bob rhyw 4-6 wythnos.