Adolygiad Cwricwlwm: Pwy sy'n deall pwysigrwydd y Gymraeg?

Mae ymgyrchwyr iaith wedi codi cwestiynau am yr adolygiad o'r cwricwlwm a gomisiynwyd gan y Gweinidog Addysg Huw Lewis, yn dilyn cyfarfod rhwng yr academydd sy'n arwain yr ymchwil a dirprwyaeth Cymdeithas yr Iaith.  

Mae'r mudiad wedi ysgrifennu'n ffurfiol i Huw Lewis AC gan ofyn pam nad yw wedi penodi pwyllgor cryf o addysgwyr Cymreig i gynorthwyo'r Athro Graham Donaldson o'r Alban, a gomisiynwyd i wneud arolwg o'r cwricwlwm yn ysgolion Cymru.  

Fel rhan o gylch gwaith cam 2 o'r adolygiad cwricwlwm, rhoddwyd i'r Athro Donaldson nifer o bapurau pwnc a baratowyd gan bwyllgorau yng Nghymru - yn cynnwys adroddiad pwyllgor tan gadeiryddiaeth yr Athro Sioned Davies. Galwodd adroddiad yr Athro Davies am chwyldroi'r holl gysyniad o "Gymraeg Ail Iaith" gan osod yn ei le gontinwwm i symud pob ysgol tuag at wneud defnydd o'r Gymraeg yn gyfrwng addysg. Y nod oedd sicrhau fod pob disgybl yn caffael yr iaith.  

Yn ei lythyr at y Gweinidog, mae llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis yn dweud: "Mae'n siwr y bydd gan yr Athro Graham Donaldson ddealltwriaeth dda o le pynciau fel mathemateg mewn cwricwlwm, ond mae'n anheg disgwyl y bydd yn deall lle canolog y Gymraeg yn ein cwricwlwm. Y peryg yw y bydd yn ei gweld fel pwnc ychwanegol yn unig, yn lle sgil hanfodol na ddylid amddifadu unrhyw ddisgybl ohono.  

Ychwanegodd "Dywedodd y Prif Weinidog iddo benodi'r Athro Donaldson i arwain adolygiad cwricwlwm, ac mae hyn yn rhagdybio fod ganddo dîm i'w arwain ac i'w gefnogi. Gofynnwn i chwi enwi pwy yw'r addysgwyr hyn sydd i fod i gynorthwyo'r Athro Donaldson, er mwyn i bobl gael hyder y bydd yr adolygiad ar sail dealltwriaeth o'r gwerthoedd sy'n sylfaenol i addysg yng Nghymru, gan gynnwys lle hanfodol yr iaith Gymraeg."  

Cynhelir dadl am adolygiad Donaldson o'r cwricwlwm yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ddydd Sadwrn, 4ydd Hydref ym Mhwllheli