Adolygiad S4C: Gwleidyddion yn galw am ddatganoli darlledu i Gymru 'er lles democratiaeth'

Mae grŵp o wleidyddion o'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru wedi galw ar i Lywodraeth Prydain ystyried datganoli darlledu fel rhan o adolygiad S4C mewn llythyr agored cyn cyhoeddiad am y sianel heddiw.   

Yr wythnos diwethaf, daeth pwyllgor diwylliant y Cynulliad i'r casgliad y "dylai’r cwestiwn [am ddatganoli darlledu] fod yn rhan o adolygiad [San Steffan o S4C]."    

Mae'r llythyr agored at Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth Prydain Karen Bradley, sy'n galw am ddatganoli cyfrifoldebau dros ddarlledu i Gymru, wedi ei lofnodi gan bymtheg o wleidyddion o'r ddwy blaid.  

Ymysg y llofnodwyr mae'r Aelod Cynlluniad Llafur Eluned Morgan, Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, Aelod Cynulliad Castell Nedd Jeremy Miles a Chadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad Bethan Jenkins. Dywed y llythyr:  

"Rydym yn gresynu at y cwymp sylweddol yn nifer oriau darlledu ITV Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf ynghyd â thoriadau o 40% i gyllideb S4C ers 2010 a'i sefyllfa ariannol ansicr bresennol. Yn ogystal, rydyn ni'n pryderu am y cwymp yn y ddarpariaeth leol a Chymraeg ar radio masnachol ynghyd â'r ddarpariaeth fregus isel o gynnwys lleol a Chymraeg ar orsafoedd teledu lleol. Heb amheuaeth, mae angen llawer mwy o graffu gan y cyfryngau ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru lle mae'r system bresennol yn methu ar hyn o bryd ac yn or-ddibynnol ar un darparwr yn unig.  

"Ar y llaw arall, tra bod y BBC yn bwriadu buddsoddi £30 miliwn er mwyn sefydlu sianel deledu newydd i'r Alban, dyw'r buddsoddiad gan y BBC yng Nghymru ddim hyd yn oed yn dad-wneud yn llawn y toriadau a wnaethpwyd dros y degawd diwethaf. Mae datganoli darlledu yn newid sy'n cael cefnogaeth gref ymysg y cyhoedd, gydag un arolwg barn diweddar yn dangos bod 65% o bobl Cymru yn cefnogi datganoli cyfrifoldebau i Senedd Cymru. Nodwn ymhellach fod Gweinidog Swyddfa Cymru Guto Bebb wedi dweud bod trafodaeth am ddatganoli yn 'anochel' wrth gynnal adolygiad S4C.  

"Gwyddom fod nifer o faterion ymarferol y bydd angen eu hystyried wrth ddatganoli darlledu, a chredwn fod adolygiad S4C yn cynnig cyfle euraidd i gael y drafodaeth fanwl honno."   

Mewn datganiad ar wahan o gefnogaeth i'r ymgyrch, dywedodd Aelod Seneddol Ynys Môn Albert Owen: "Rwyf yn cefnogi egwyddor o ddatganoli S4C a darlledu, ond ar [yr] amod bydd yn cael ei ariannu gan y Trysorlys ac nid yn effeithio ar gyllidebau eraill.  Hefyd, rwy'n credu mewn datganoli go iawn ond nid i Fae Caerdydd yn unig, rhaid gweld swyddi a chyfleoedd yn cael eu gwasgaru ledled Cymru - o Fae Cemaes i Fae Caerdydd."