Adroddiad yn pwysleisio gwendid sylfaenol y drefn gynllunio

 crestceredigion.gif Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu’n hallt gasgliadau’r Ymchwiliad Cyhoeddus a gynhaliwyd i gynnwys Cynllun Datblygu Unedol Cyngor Ceredigion. Yn nhyb y mudiad, mae canfyddiadau’r arolygwyr – Mr Alwyn Nixon a Ms Stephanie Chivers – yn dangos fod yna anallu sylfaenol o fewn y drefn gynllunio bresennol i ymdrin yn effeithiol ag anghenion yr iaith Gymraeg.

Caiff adroddiad yr arolygwyr ei drafod mewn cyfarfod llawn o Gyngor Ceredigion a gynhelir yn Aberaeron bore yma (Iau, Chwefror 23, 2006). Meddai Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith:"Mae’r CDU yn argymell rhoi caniatad cynllunio ar gyfer tua pum mil o dai. Dyma bolisi a luniwyd heb gynnal ymchwil manwl i ddarganfod beth yw natur y galw lleol. Eto i gyd, nid yw’r arolygwyr yn credu bod dim o’i le ar hyn.""Nid yw’r cynllun chwaith yn cynnwys ystyriaeth fanwl o beth fyddai effaith ei bolisiau datblygu ar ragolygon y Gymraeg ar draws cymunedau Ceredigion. Ond, unwaith eto, nid yw’r arolygwyr yn credu bod dim o’i le ar hyn.""Credwn fod methiant yr arolygwyr i ymdrin yn effeithiol â gwendidau sylfaenol o’r fath yn adlewyrchu gwendid sydd yn rhedeg drwy’r drefn gynllunio yn gyffredinol. Go brin y bu ymchwiliad tebyg, lle bu lles y Gymraeg mor ganolog i’r trafodaethau. Er gwaethaf hyn, nid yw’r arolygwyr wedi llwyddo i roi ystyriaeth deg i anghenion yr iaith.""Yn wir, profwyd mor ymylol oedd yr Gymraeg i flaenoriaethau’r ymchwiliad ynystod yr wythnos gyntaf un. Bryd hynny, gwelodd yr arolygwyr yn dda i ddanfon dogfennaeth uniaith Saesneg – gan gynnwys papurau tystiolaeth hollbwysig – at bawb a fyddai’n cymryd rhan. O ystyried y ffaith nad oedd arweinwyr yr ymchwiliad yn ei gweld hi’n ddigon pwysig i gymryd y cam syml o ddarparu deunydd tystiolaeth dwyieithog, nid yw’n syndod mai ymylol hefyd fu’r Gymraeg wrth iddynt ddyfarnu ar faterion dadleuol ym maes cynllunio.""Yn sgil yr adroddiad hwn, dylai Llywodraeth y Cynulliad fynd ati, ar frys, i adolygu ei ganllawiau cynllunio, er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn rhoi ystyriaeth lawn i anghenion y Gymraeg wrth baratoi cynlluniau sirol o’r fath. Bydd Cymdeithas yr Iaith nawr yn mynd ati i gyflwyno’r alwad yma i Carwyn Jones y gweinidog Cynllunio."