Aelod arall o Gymdeithas yr Iaith o flaen ei gwell

Angharad BlytheAr ddydd Mercher yr ail o Awst am 10 y.b, bydd Angharad Elen Blythe o flaen ei gwell yn Llys Ynadon Caerdydd. Hi fydd yr aelod olaf o’r mudiad i wynebu achos llys yn dilyn y cyfnod o weithredu uniongyrchol yn erbyn Llywodraeth y Cynulliad yn 2005 yn galw am Ddeddf Iaith Newydd.

Mae achos Angharad wedi tanlinellu aneffeithlonrwydd Deddf Iaith 1993 a’r angen dybryd am gyflwyno deddfwriaeth gynhwysfawr newydd ym maes y Gymraeg. Mae’r achos yma yn digwydd dros saith mis llawn wedi i Angharad gael ei harestio am baentio slogan ar adeilad Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd yn galw am Ddeddf Iaith Newydd.Derbyniodd Angharad ffurflen fechniaeth, tair gwŷs uniaith Saesneg, ac nid oedd yr un swyddog ar gael yn Heddlu De Cymru a allay delio â’r achos trwy gyfrwng y Gymraeg. Gorfodwyd iddi deithio o ogledd Cymru i Gaerdydd ddwywaith er mwyn cael gwybod nad oedd modd trin yr achos yn Gymraeg. Mae’n ofynnol i lysoedd Cymru ohebu gyda diffynyddion yn ddwyieithog o dan Ddeddf Iaith 1993. Yn wir, sfydlu’r hawl hon oedd un o ymgyrchoedd cyntaf y Gymdeithas pan y’i sefydlwyd ym 1962.Barnwyd Heddlu De Cymru yn hallt gan y Barnwr a oedd â chyfrifoldeb dros achos llys Mehefin ac mi addawodd anfon cwyn swyddogol atynt i gwyno ac i’w hysbysu eu bod yn gwyrdroi’r drefn gyfreithiol trwy beidio a chydymffurfio gyda’i Cynllun Iaith.Dywedodd Catrin Dafydd, cadeirydd Grwp Deddf Iaith Newydd y Gymdeithas,"Mae’r ffordd y tramgwyddwyd hawl Angharad fel siaradwr Cymraeg yn wirioneddol waradwyddys. Mae’r achos llys yma wedi bod yn pwyso ar ei hysgwyddau ers dros chwe mis, ac amharodrwydd Heddlu De Cymru i gydymffurfio gyda’u Cynllun Iaith eu hunain a diffyg grym Deddf Iaith 1993 i gosbi hynny yw’r rheswm dros hyn.""Angharad yw’r aelod olaf o’r Gymdeithas i wynebu achos llys yn dilyn cyfnod o weithredu uniongyrchol yn erbyn Llywodraeth Lafur y Cynulliad. Maent wedi derbyn dirwyon amrywiol eu maint ac mae gorfodi rhywun i ddisgwyl saith mis i dderbyn cosb ariannol fel hyn i’w gondemio.""Mae achos Angharad yn digwydd mewn cyfnod o ymgynghori pellach gyda phleidiau gweidyddol sydd wedi dangos mor eang yw’r consensws o blaid deddfwriaeth newydd, a phyhefnos cyn Taith Haf Deddf Iaith Newydd lle bydd aelodau o’r Gymdethas yn teithio ar draws Cymru i ledaenu neges Deddf Iaith Newydd ac i gasglu enwau ar ddeiseb a gyflwynir i’r Llywodraeth maes o law."South Wales Echo - Welsh language vandal vows to continue protest