Bydd 2 Aelod Cynulliad yn ymuno a chynrhychiolwyr o bleidiau gwleidyddol eraill mewn Fforwm Cyhoeddus nos Fawrth 25ain o Hydref i drafod Strategaeth ddadleuol gan Cyngor Sir Caerfyrddin a allai arwain at gau hyd at 40 o ysgolion pentrefol Cymraeg.
Trefnir y fforwm gan Cymdeithas yr Iaith yng Ngwesty'r Ivy Bush, Caerfyrddin i gychwyn am 7.00pm. Eisioes mae'r Aelodau Cynulliad Helen Mary Jones (Plaid Cymru) a Lisa Francis (Ceidwadwyr) ynghyd ag ymgeisydd Seneddol y Rhyddfrydwyr Julianna Hughes wedi cytuno i siarad yn y fforwm.Prif ddiben i fforwm fydd galw am gynnig yng nghyfarfod Tachwedd y Cyngor Llawn yn mynnu fod y strategaeth yn cael ei danfon am gyfnod o ymgynghori trwyadl trwy'r sir am ei holl egwyddorion sylfaenol. Mae'r Gymdeithas wedi cysylltu a phob cynghorydd annibynol yn gofyn iddynt gefnogi cynnig o'r fath.Dywed Ffred Ffransis, llefarydd y Gymdeithas ar Addysg:"Mae ein canlyniadau canfasio'n dangos fod nifer o gynghorwyr annibynol yn cytuno'n llwyr a'r angen am drafodaeth gyhoeddus, ond dywedant eu bod am fynd yn ol i drafod gyda'r grwp.""Yr ydym yn dal yn obeithiol y cawn ni hyd i gynghorwyr annibynol nad sy'n aelodau o'r Bwrdd Gweithredol nac yn dal unrhyw swyddi eraill yn y Cyngor. Byddwn yn cyhoeddi nos Fawrth os oes rhai ohonynt yn barod i weithredu'n annibynol a siarad allan ar ran pobl y sir a chynnig a chefnogi'r cynnig".Mae'r cyfarfod hwn yn dilyn 3 chyfarfod cyhoeddus a drefnwyd yn ystod y mis diwethaf gan Fforwm Ysgolion Cynradd Sir Caerfyrddin i brotestio'n erbyn strategaeth y Cyngor.