Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad i sicrhau hawliau i bobl Cymru i’r GymraegMae’n ymddangos y bydd Aelodau Seneddol yn San Steffan yn gwanhau drafft Gorchymyn Iaith y Cynulliad ar ôl ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf. Yn sgil hyn, byddant yn bygwth hawl pobl Cymru i’r Gymraeg.
Yn ôl Bethan Williams, Cadeirydd Grŵp Deddf Iaith,“Mae Cymdeithas yr Iaith yn gobeithio y bydd y Gorchymyn Iaith sydd ar fin cael ei chyhoeddi yn sicrhau hawliau ieithyddol ar draws pob un sector. Nid rôl yr Aelodau Seneddol yn Llundain yw sathru ar unrhyw agwedd ar y weledigaeth hon. ”Mae enghraifft o Fesur Iaith a luniwyd yn 2007 gan Gymdeithas yr Iaith yn galw am statws swyddogol i’r iaith Gymraeg, am greu comisiynydd iaith gyda phŵer cyfreithiol gwirioneddol i reoleiddio cyrff ar draws pob sector a bod cyfres o hawliau statudol i'r Gymraeg yn cael eu sefydlu, er mwyn normaleiddio'r Gymraeg a sefydlu hawliau ieithyddol i bawb yng Nghymru.Yn ôl Cadeirydd y Grŵp Deddf Iaith, Bethan Williams,“Er mwyn sicrhau fod gan bobl Cymru fynediad i’r Gymraeg ymhob agwedd ar eu bywydau, mae'n rhaid i'r Gorchymyn ganiatáu i Lywodraeth y Cynulliad lunio mesurau iaith pellgyrhaeddol. Nid yw'r ddeddf bresennol yn caniatáu hawl i bobol Cymru weld, dysgu, gweithio na defnyddio'r Gymraeg ymhob agwedd ar eu bywydau bob dydd. Fel y saif pethau, nid oes unrhyw atebolrwydd, na modd o reoleiddio sefyllfaoedd pan mae hawliau yn cael eu tramgwyddo.”