Agor cofrestr y Coleg Ffederal Cymraeg ar Faes Eisteddfod yr Urdd

Ar Ddydd Gwener, Mai 29ain am 12pm, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn agor cofrestr y Coleg Ffederal Cymraeg ar Faes Eisteddfod yr Urdd i bwysleisio fod y Coleg Cymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru gan wahodd darpar fyfyrwyr i gofrestru â'r Coleg.Wrth i ni aros am adroddiad Robin Williams a fydd yn argymell model o'r Coleg Ffederal Cymraeg i'r Gweinidog Addysg yn fuan iawn, mae Cymdeithas yr Iaith yn edrych ymlaen at sefydlu'r Coleg ac yn gwahodd disgyblion ysgol ac oedolion sydd am ddilyn cyrsiau addysg barhaus i gofrestru ar gwrs o'u dewis.Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:Disgwyliwn y bydd myfyrwyr yn gallu cofrestru gyda'i sefydliad uwch daearyddol yn ogystal â'r Coleg Ffederal Cymraeg os ydyn nhw'n cymryd cwrs a ariennir gan y Coleg Cymraeg. Drwy agor y gofrestr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 2009, rydym yn adeiladu momentwm tuag at sefydlu'r coleg. O'r cychwyn cyntaf, rhaid i fyfyrwyr a darlithwyr deimlo perchnogaeth dros y Coleg Ffederal Cymraeg.'

Yn ogystal â lansio cofrestr, mae plant a ieuenctid sydd wedi bod yn ymweld â stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth llunio arfbais ar gyfer y Coleg Ffederal Cymraeg newydd.Ychwanegodd Menna Machreth:'Dyma gyfle i ddarpar fyfyrwyr a darpar ddarlithwyr y Coleg Ffederal ymroi i addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal â ffrwd annibynnol o gyllid er mwyn darparu ystod eang o gyrsiau addysg uwch ar draws Cymru, amcan y sefydliad fydd creu cymuned academaidd Cymraeg.'