Amser am y pethau mawrion - ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gofyn am sicrwydd y bydd y Llywodraeth yn cynyddu'r ganran o'i chyllideb sy'n cael ei gwario ar hyrwyddo'r Gymraeg, yn dilyn ei chyhoeddiad am gynlluniau i agor canolfannau iaith.

Ym maniffesto byw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, galwodd y mudiad ar y Llywodraeth i bedryblu'r buddsoddiad ar hyrwyddo'r Gymraeg er mwyn cyrraedd lefelau Gwlad y Basg.

Meddai Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Er ein bod ni'n croesawu'r canolfannau newydd, credwn ei fod yn bwysig gweld y darlun ehangach. Mae'r rhan helaeth o wariant Llywodraeth Cymru yn fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyfrwng Saesneg yn yr iaith Saesneg. Wythnosau'n unig wedi cyhoeddiad diwethaf Carwyn Jones, daeth i'r amlwg bod toriadau i ddysgu Cymraeg i Oedolion. Buddsoddiad pitw sydd ar hyrwyddo'r Gymraeg – tua 0.15% o holl gyllideb y Llywodraeth. Rhaid gofyn: a ydy'r pres yma'n ddigon i gynyddu gwariant y Llywodraeth ar y gwaith hollbwysig o hybu'r Gymraeg?”

“Mae angen i Carwyn Jones symud o'r pethau bychain i'r pethau mawrion – fel sicrhau bydd holl blant Cymru'n dod yn rhugl yn y Gymraeg trwy'r system addysg, a chreu system gynllunio sy'n gweithio er budd ein cymunedau.”