Mae angen symud ar frys i sefydlu Menter Iaith Ddigidol a fyddai’n mynd ati i wella presenoldeb y Gymraeg ar-lein gan ei bod bron yn anweledig ar hyn o bryd, yn ôl mudiad iaith.
Mewn papur a lansir ar faes yr Eisteddfod heddiw, bydd Cymdeithas yr Iaith yn amlinellu cynigion i sefydlu Menter Iaith Ddigidol gan alw am gyllideb sylweddol a fyddai’n adlewyrchu'r brys ac anferthedd y dasg gyda nod o “gynyddu cyfleoedd i weld, clywed, creu a defnyddio'r Gymraeg ar y we ac ar draws platfformau ar-lein.”
Yn ôl cynigion y mudiad, byddai’r Fenter newydd yn gyfrifol am:
-
ymchwilio i’r mynediad a’r cynnwys presennol, ymchwilio i’r angen a chreu cynnwys;
-
cynnal a chreu llwyfannau newydd i gynyddu presenoldeb y Gymraeg ar-lein; a
-
gwella ymwybyddiaeth ymhlith unigolion, grwpiau a sefydliadau o beth sydd eisoes ar gael ac a fydd ar gael.
Yn ogystal, cynigir y gallai’r Fenter Ddigidol gyfrannu at sgyrsiau ynghylch a bod yn gyfrifol am greu a rhyddhau teclynnau a gwasanaethau megis teclynnau llais, gwella seilwaith ac isadeiledd yr iaith ar-lein, a chreu adnoddau.
Mae’r cynigion wedi eu datblygu wrth i aelodau’r Gymdeithas sylwi ar y bylchau enfawr yn y ddarpariaeth a’r cynnwys presennol ar-lein, megis fideos YouTube. Mae gwaith yn cael ei wneud yn barod gan grwpiau a chyrff eraill, ond mae’r ymgyrchwyr yn dadlau bod angen sefydliad newydd sy'n cael adnoddau digonol er mwyn datblygu'r Gymraeg ar-lein. Cyn annerch trafodaeth ar faes yr Eisteddfod, dywed Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith:
“Mae’r Gymraeg yn anweledig ar y we, ac mae’n amlwg i ni fod hynny’n cael effaith ar ddefnydd yr iaith ar lawr gwlad, yn enwedig ar blant a phobl ifanc. Mae angen y Fenter newydd ar frys. Wedi’r cwbl, rydyn ni’n gweld y gall y Gymraeg gael ei hennill neu ei cholli fan hyn, ac rydyn ni’n colli ar hyn o bryd. Mae angen menter newydd er mwyn creu a chomisiynu cynnwys lleol sydd wedi ei wreiddio yn ein cymunedau ac sy’n arfogi ac yn galluogi ein pobol ar lawr gwlad.
“Fel mam fy hunan ac fel rhywun sydd wedi gweithio gyda phobol ifanc, mae mor affwysol o amlwg bod diffygion difrifol o ran cynnwys Cymraeg ar YouTube ac ar-lein yn fwy cyffredinol. Bydd gan y Fenter newydd gyfle i adnabod anghenion megis creu mwy o ddeunydd, hyrwyddo deunydd a chreu platfformau newydd sy’n cyfateb i’r rhai sydd ar gael mewn ieithoedd eraill a hefyd datblygu syniadau gwreiddiol. Rhaid hefyd edrych ar heriau technolegol sy’n wynebu’r Gymraeg ar-lein ac ymateb i’r heriau yna.”
Ychwanegodd Iwan Hywel o Fentrau Iaith Cymru:
“Mae'r Mentrau Iaith yn diolch i Gymdeithas yr Iaith am dynnu sylw at yr angen am gynllun, cyllid a phrosiect neu endid penodol i ganolbwyntio ar y maes digidol a'r Gymraeg.
“Yn sicr mae bylchau enfawr a diffygion amlwg o ran beth sydd ar gael yn y Gymraeg yn ddigidol ac mae hyn yn effeithio'n ofnadwy ar allu pobl i fyw eu bywyd drwy'r iaith a defnyddio'r iaith ym mhob rhan o'u bywyd.
“Mae gan y Mentrau Iaith sawl prosiect digidol arloesol, megis prosiectau Wici, clybiau flogio a chlybiau codio amrywiol a chlybiau gemau fidio. Yn ogystal, mae apiau amrywiol wedi eu cynhyrchu, megis ap Tro yn sir Ddinbych yn ddiweddar, ac wrth gwrs mae apiau Magi Ann yn hynod boblogaidd.
“Brwydro yn erbyn lli enfawr o gynnyrch a chynnwys Saesneg yw hanes ein prosiectau ar hyn o bryd, a heb gyllid a phrosiect neu endid penodol yn arwain ar y gwaith yn y maes yma, yna ofer yw'r holl ymdrechion, gan y Mentrau Iaith ac eraill, i ddal fyny a rhoi cyfleoedd i bobl ddefnyddio cynnyrch a chynnwys digidol yn y Gymraeg.
“Pwysig yw nodi nad yw'r Mentrau Iaith yn cefnogi'r alwad yma er mwyn datblygu neu dderbyn cyllid ychwanegol ein hunain, er y byddem yn croesawu hynny wrth gwrs, ond mae sawl cangen wahanol i'r hyn mae'r Gymdeithas yn galw amdano, ac mae'r Mentrau yn arbennig am weld datblygiadau yn y maes o ran defnydd teuluoedd, unigolion a chymunedau o dechnoleg drwy'r Gymraeg.”