Bu ymgyrchwyr yn galw am 'newidiadau radical' yn y gyfundrefn cynllunio mewn protest yn erbyn datblygiad tai enfawr yng ngogledd Cymru heddiw (Dydd Sadwrn, Gorffennaf 2).Mae ymgyrchwyr yn gwrthwynebu cynllun i godi dwy fil o adeiladau newydd ym mhentref Bodelwyddan yn Sir Ddinbych, cynllun a fyddai'n treblu maint y pentref sydd ger yr A55.Cafodd y brotest, tu allan i neuadd y sir yn Rhuthun, wedi ei drefnu ar y cyd rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Gr?p Gweithredu Bodelwyddan.Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dadlau bod y datblygiad arfaethedig ym Modelwyddan yn enghraifft o broblem ehangach gyda'r system gynllunio, sydd yn rhoi buddiannau datblygwyr o flaen anghenion lleol. Yn siarad cyn y rali, fe ddywedodd Hywel Griffiths llefarydd cymunedau'r mudiad:"Gwneud elw ydy prif fwriad cynllun tai Bodelwyddan - gan gwmni Americanaidd sydd am dreblu maint y pentref - nid gwasanaethu'r gymuned. Mae ein cymunedau Cymraeg ar fin diflannu am byth yn rhannol oherwydd cynlluniau fel hyn. Unwaith eto, mae datblygiadau tai ar gyfer cymudwyr fel hyn yn dangos diffygion mawr y system cynllunio bresennol. System sydd yn rhoi anghenion datblygwyr yn gyntaf yn hytrach nag anghenion y gymuned.""Mae gyda ni, yn y Gymdeithas, weledigaeth dros gymunedau cynaliadwy ym mhob ystyr y gair. Mae angen symud i ffwrdd o system sydd yn annog pobl i gymudo yn bell i'r gwaith. Mae angen creu cymunedau sydd yn gynaliadwy yn economaidd, amgylcheddol ac yn ieithyddol. Ni fydd chwyldro tai fel hyn yn plesio datblygwyr, ond dyna'r peth gorau i'n cymunedau."
Ychwanegodd Llyr Huws Gruffydd, Aelod Cynulliad Plaid Cymru Gogledd Cymru:\Bodelwyddan ydi'r gwaethaf o nifer fawr o enghreifftiau o or-ddatblygu ar hyd y Gogledd. Mae na fwriad i godi 200 o dai newydd yn Llanfairfechan, 800 yn Abergele a 140 ym Mhenyffordd. Ar hyd a lled y Gogledd, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gorfodi mwy a mwy o dai ar ein cynghorau lleol. Does dim angen lleol am y tai yma...\"Felly yn hytrach na chynllunio ar gyfer cymunedau cynaliadwy mae Llywodraeth Cymru yn ceisio hybu stadau cymudo enfawr ar hyd yr A55. Digon yw digon - dan ni ddim am dderbyn mwy. Mae angen i ni uno'r gwahanol ymgyrchoedd lleol mewn un ymgyrch gref fydd yn datgan barn clir i wleidyddion a gweision sifil y Llywodraeth."