Bydd sefydlu ail orsaf radio Cymraeg cenedlaethol yn fwy tebygol wedi i ddarlledu cael ei ddatganoli, yn ôl mudiad iaith a fydd yn cyhoeddi papur polisi yn gwneud yr achos dros ddatganoli darlledu ym Mangor ddydd Sadwrn.
Yn y papur sy’n cyflwyno dadleuon dros ddatganoli darlledu, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn amlinellu’r achos dros ehangu darlledu Cymraeg gan sefydlu rhagor o orsafoedd radio Cymraeg a sianeli teledu, ynghyd â gwasanaeth newyddion Cymraeg newydd sy’n aml-lwyfan.
Diddymodd y BBC ei ail orsaf radio Gymraeg dros dro ddechrau’r flwyddyn.
Yn siarad cyn y lansiad, meddai Carl Morris, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
“Os ydyn ni’n cymharu darlledu yng Nghymru gyda Gwlad y Basg a Chatalwnia, mae’n glir nad yw’r cyfryngau Cymraeg wedi datblygu fel y dylen nhw. Mae’r ffaith bod darlledu heb gael ei ddatganoli i’n gwlad ni yn un rheswm pwysig pam nad oes dim ail orsaf radio gyda ni, er enghraifft. Datganoli darlledu a chreu strwythur newydd ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru yw’r ffordd i newid hynny.
“Mae adolygiad o S4C yn cael ei gynnal eleni ac mae’n deg dweud bod hyn yn cynrychioli cyfle prin iawn i edrych yn fanwl ar fanylion y diwydiant darlledu yng Nghymru. Yn ogystal, mae Gweinidog Swyddfa Cymru wedi datgan bod hyn yn gyfle i ystyried datganoli darlledu, gan ddweud bod trafodaeth o’r fath yn ‘anochel’ wrth gynnal yr adolygiad.
“Mae’r ddadl dros ddatganoli darlledu yn un gref iawn - mae arbenigwyr yn y maes yn cyfaddef hynny. Mae’r maes wedi ei ddatganoli mewn gwledydd bychain eraill, ac maent wedi defnyddio eu pwerau er lles ieithoedd lleiafrifoledig. Mae gennym gyfle drwy’r adolygiad yma felly i ddechrau cyfnod newydd ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru drwy ddatganoli’r maes i Gymru. Dyna pam rydyn ni’n lansio’r papur yfory ym Mangor - er mwyn sbarduno’r drafodaeth bellgyrhaeddol sydd ei hangen er mwyn normaleiddio’r Gymraeg ar bob llwyfan. ”