Apel at Weinidog Addysg newydd Cymru

Cadwn Ein Hysgolion.JPGYn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd bydd plant, rhieni a llywodraethwyr yn cyfrannu at ffeil i’w danfon at Weinidog Addysg newydd Llywodraeth y Cynulliad yn galw am gyfle newydd i ysgolion pentrefol.

Cyn diwedd yr wythnos, byddwn yn gwybod ai at Jane Davidson neu at ei holynydd yr anfonir y ffeil. Gwnaed y cyfraniadau cyntaf i’r ffeil – a fydd ar gael yn uned Cymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod - gan nifer o blant Ysgol Mynyddcerrig a fydd yn cau ar derfyn y tymor hwn gan i Ms Davidson wrthod eu hapel.Yn siarad o flaen protest am 12.00 Dydd Llun 28/5 wrth uned Cyngor Sir Caerfyrddin ar y maes, dywedodd llefarydd y Gymdeithas ar Addysg, Ffred Ffransis:"Mae swyddogion y Cyngor Sir wedi bod yn gweithio law yn llaw gyda Llywodraeth y Cynulliad yn eu hymosodiad ar ein hysgolion pentrefol Cymraeg. Trwy wrthod pob apel, mae’r Gweinidog wedi caniatau i ddulliau ymgynghori twyllodrus y Cyngor Sir barhau.""Yn yr etholiad, fe gollodd y Blaid Lafur bob cefnogaeth yn y cymunedau pentrefol Cymraeg ac ni allan nhw gario mlaen yn yr un ffordd. Gobeithiwn y bydd y Gweinidog Addysg newydd yn gwrando ar lais rhieni, disgyblion a llywodraethwyr a chytuno I gyfarfod brys I drafod yr argyfwng."