Araith Tony Hall: Mwy o ieithoedd ond beth am ail wasanaeth Cymraeg?

Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw am ail wasanaeth Cymraeg yn dilyn araith gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC heddiw sy'n sôn am ehangu cynnwys y gorfforaeth mewn nifer o ieithoedd y byd, ond ddim y Gymraeg. 

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dweud bod twf aruthrol wedi bod mewn gwasanaethau Saesneg ers degawdau ond toriadau i wasanaethau Cymraeg, megis cwtogi oriau radio Cymru, yn enwedig gan y BBC. Mae'r dewis o sianeli teledu Saesneg ar gael yng ngwledydd Prydain wedi tyfu ymhell dros 450 ac mae hefyd dros 600 o orsafoedd radio yn darlledu yn Saesneg. Er y twf hwn dros y blynyddoedd diwethaf, dim ond un sianel teledu ac un orsaf radio Cymraeg sydd o hyd, y lleiafswm sy'n cael ei ganiatáu o dan gytundeb Ewropeaidd ar ieithoedd llai.   

Daw'r alwad am wasanaeth Cymraeg ychwanegol wedi i Brif Weinidog yr Alban ac RTE yn Iwerddon amlinellu cynlluniau ar gyfer rhagor o wasanaethau yn eu gwledydd nhw. Wrth ymateb i araith Tony Hall, dywedodd Aled Powell, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  

“Mae'n rhyfedd clywed y BBC yn sôn am ddarparu rhagor o wasanaethau mewn ieithoedd eraill y byd, a hynny heb gynllunio i ehangu eu darpariaeth Gymraeg. Mae'r syniad o greu sianel ryngweithiol i Gymru yn un da, ond nid oes sôn am ehangu'r cynnwys Cymraeg er gwaethaf toriadau cyson i'w allbwn Cymraeg dros y blynyddoedd. Mae'n dod yn gliriach nag erioed bod angen datganoli darlledu er mwyn cael system sy'n ymateb i anghenion Cymru. Mae plwraliaeth y cyfryngau yng Nghymru, yn enwedig yn Gymraeg, yn broblem nad oes modd i gorfforaeth Tony Hall ei ateb. 

"Mae'n dda bod y BBC yn cytuno gyda'r Gymdeithas bod angen darparwr aml-gyfryngol newydd er mwyn cynnig dewis i siaradwyr Cymraeg. Dyna sydd ei angen, yn hytrach na pharhau i geisio apelio at bawb trwy un orsaf radio ac un sianel teledu. Ond rydyn ni'n credu y dylai darparwr o'r fath fod yn annibynnol o'r BBC, er mwyn sicrhau gwir ddewis, a hynny'n Gymraeg. Mae hefyd yn braf clywed bydd y BBC yn fwy parod i rannu cynnwys, yn enwedig o ran newyddiadura, a gallai darparwr Cymraeg aml-lwyfan annibynnol newydd ddewis manteisio ar hyn. 

"O wrando ar yr araith, mae'n debyg nad oes uchelgais gan y BBC yn Llundain ar gyfer eu gwasanaethau Cymraeg. Mae'n hollbwysig bod y Llywodraeth yn sicrhau bod cynnydd yng nghyllideb S4C fel bod y darlledwr yn gwbl annibynnol o'r Gorfforaeth Darlledu Brydeinig." 

Mae'r mudiad iaith wedi cyhoeddi papur sy’n argymell codi cannoedd o filiynau o bunnau drwy dreth newydd - ar hysbysebion a darlledwyr preifat - er mwyn ariannu darlledu aml-gyfrwng Cymraeg a darlledwyr cyhoeddus eraill. Talodd Google £11.2 miliwn yn unig o dreth gorfforaethol yn 2012, a'cwmni'n gwneud incwm o £3.5 biliwn yng ngwledydd Prydain.  Mae BSkyB bellach yn gwneud elw o £1.3 biliwn y flwyddyn. Yn yr un cyfnod, mae ariannu o goffrau’r Llywodraeth ar gyfer S4C wedi cael ei gwtogi o 92% ers 2010.