Archif Newyddion

02/08/2024 - 09:04
Ar drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, mae ymgyrchwyr iaith wedi beirniadu Cyngor Rhondda Cynon Taf yn hallt am ddiffyg twf addysg Gymraeg yn y sir, gan alw ar y Cyngor i fynd ati ar fyrder i wneud iawn am “ddegawdau o ddiffyg gweithredu”.
18/07/2024 - 10:12
Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi gweithredu yn erbyn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar draws Cymru dros nos (17 Gorffennaf) mewn ymateb i oedi wrth gyhoeddi eu Papur Gwyn hir-ddisgwyliedig ar dai, gan ddatgan mai datrys yr argyfwng tai fydd her fwyaf Prif Weinidog nesaf Cymru. 
16/07/2024 - 14:55
Yn dilyn penderfyniad Cabinet Cyngor Gwynedd i gymeradwyo cyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4, fyddai’n gwneud caniatâd cynllunio’n ofynnol er mwyn troi cartref parhaol yn ail gartref neu lety gwyliau, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi canllawiau ac adnoddau i awdurdodau cynllunio er mwyn eu galluogi i gymryd camau tebyg.
15/07/2024 - 08:47
Wrth ymateb i gyhoeddi Bil y Gymraeg ac Addysg heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod y Llywodraeth yn “colli cyfle mewn cenhedlaeth” i osod nod hirdymor bod pob plentyn yn cael addysg Gymraeg, gan bwysleisio mai blaenoriaeth y mudiad yn ystod y misoedd nesaf fydd cryfhau’r ddeddfwriaeth yn ystod ei thaith trwy&rsq
12/07/2024 - 09:09
Bydd arbenigwyr ym maes darlledu yn dod ynghyd yng Nghaernarfon ddiwedd y mis i drafod Corff Cyfathrebu newydd Cymru.
09/07/2024 - 14:10
Mae ymgyrchwyr iaith yn disgwyl i Gabinet Cyngor Gwynedd gymeradwyo cyflwyno Gorchymyn Erthygl 4 ar draws y sir fyddai’n cyfyngu ar ail dai a llety gwyliau a mynd i’r afael gyda’r argyfwng tai yn y sir. Mae galwadau hefyd ar gynghorau eraill i ddilyn eu hesiampl ac ar Lywodraeth Cymru roi cymorth i’r cynghorau hyn.
21/06/2024 - 09:03
Bydd Cowbois Rhos Botwnnog, HMS Morris a Pedair ymysg rheiny fydd yn chwarae yn gigs Cymdeithas yr Iaith ym Mhontypridd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Cyhoeddodd Dylan Jenkins, trefnydd gigs Cymdeithas yr Iaith eleni, rhai o’r artistiaid fydd yn chwarae yn gigs y mudiad eleni ar raglen Huw Stephens ar Radio Cymru neithiwr (20 Mehefin).
19/06/2024 - 13:37
Mae ymgyrchwyr iaith wedi rhybuddio y gallai Llywodraeth Cymru droi ei chefn ar Fil Addysg Gymraeg radical yn sgil patrwm o ddiffyg ymrwymiad ac agwedd “llugoer” yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg tuag at y Gymraeg. Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bil Addysg Gymraeg yn yr wythnosau nesaf, a fydd yn anelu at gynnydd sylweddol mewn darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, yn dilyn cyhoeddiad ymateb Jeremy Miles i ymgynghoriad cyhoeddus ar bapur gwyn ar gyfer y Bil ar 21 Chwefror.
04/06/2024 - 09:13
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhyddhau testun e-bost gan Ysgrifennydd newydd Cabinet y Llywodraeth dros Addysg, Lynne Neagle, sy’n cadarnhau fod y rhagdyb o blaid ysgolion gwledig – sy'n ganolog i argraffiad 2018 y Cod Trefniadaeth Ysgolion – yn parhau'n bolisi swyddogol Llywodraeth Cymru. Daw'r datblygiad hwn wedi i swyddogion Cyngor Ceredigion hysbysu llywodraethwyr eu bod yn adolygu dyfodol nifer o ysgolion gwledig trwy'r sir yng nghyd-destun gwneud arbedion brys i’w cyllideb ar gyfer 2025-26.
29/05/2024 - 10:02
Cyflwynwyd galwad “Deddf Eiddo – Dim Llai” Cymdeithas yr Iaith i swyddogion Llywodraeth Cymru heddiw (29 Mai) wedi diwedd digwyddiad dathlu deng mlwyddiant y Siarter Iaith yn stondin y Llywodraeth. Mae gwaith a llwyddiannau’r Siarter i’w canmol yn ôl y Gymdeithas, ond mae argyfwng tai a dinistr y farchnad agored yn bygwth “tanseilio” y gwaith da hynny, yn hytrach nag adeiladu arno.