Archif Newyddion

28/02/2019 - 21:58
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu ar y cyd gyda Chlwb Rygbi Castell Newydd Emlyn lansiad ymgyrch newydd i wneud y Gymraeg yn brif iaith gweithgareddau hamdden yn Sir Gâr a Cheredigion.
21/02/2019 - 12:59
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch cynghorwyr Sir Gâr ar eu penderfyniad y dylai eu Prif Weithredwr nesaf fod yn ddwyieithog.    Dywedodd Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith:  
20/02/2019 - 12:04
Mae ymgyrchwyr wedi mynegi pryder am gynlluniau Prifysgol Caerdydd i uno Ysgol y Gymraeg gydag adrannau eraill sy’n dysgu ieithoedd. Mewn papur at staff yn esbonio cynlluniau arfaethedig i dorri 380 o swyddi, dywed y Brifysgol:
13/02/2019 - 17:11
Mae ymgyrchwyr wedi cyhuddo’r Llywodraeth o ‘geisio tanseilio annibyniaeth y Comisiynydd drwy’r drws cefn’ gan ‘lwgrwobrwyo'r Comisiynydd’ i newid ei strwythurau a’i gwaith, yn sgil cyhoeddi papur polisi newydd Gweinidog y Gymraeg. Mewn papur a gyflwynwyd yn hwyr ar gyfer cyfarfod pwyllgor diwylliant y Senedd heddiw (dydd Mercher 13eg Chwefror), dywed Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan:
08/02/2019 - 10:03
Mae mudiad iaith wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu eu cwmni ynni adnewyddol newydd yn Ynys Môn, yn dilyn penderfyniad cwmni Hitachi, perchennog Horizon, i rewi eu cynlluniau ar gyfer codi atomfa yn yr Wylfa. 
04/02/2019 - 16:39
Mae mudiad iaith wedi croesawu’r newyddion heddiw (dydd Llun, 4ydd Chwefror) na fydd y cynnig ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth ar y cwricwlwm i orfodi dysgu Saesneg  yn ymddangos yn y ddeddfwriaeth wedi’r cwbl.    
01/02/2019 - 20:08
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Cyngor Sir Caerfyrddin am beidio cynnal asesiad o effaith eu strategaeth gynllunio am y blynyddoedd nesaf ar yr iaith ac ar gymunedau Cymraeg. Daw cyfnod ymgynghori ar y "Strategaeth a ffefrir" gan y Cyngor i ben Ddydd Gwener nesaf, yr 8ed o