Arestio Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith

Steffan Cravos Mae Steffan Cravos - Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith - newydd gael ei ryddhau gan Heddlu Caernarfon wedi treulio'r rhan fwyaf o'r 24 awr diwethaf yn y ddalfa.

Cafodd ei arestio yn oriau man heddiw (Mercher 3/8) wedi iddo baentio slogan yn galw am Ddeddf Iaith newydd ac yn gofyn 'Ble mae'r Gymraeg?' ar furiau archfarchnad Morrisons ym Mangor.Cyflawnodd y weithred hon mewn ymateb i agwedd hunan-fodlon Rhodri Morgan ar faes yr Eisteddfod yn gynharach yn ystod Dydd Mawrth. Steffan - fel MC Sleifar - fydd y prif artist mewn gig Nos Wener ym Mangor gan Gymdeithas yr Iaith yn dwyn y teitl 'Ennill Tir - Cadw Iaith' a fydd yn pwysleisio nad yw'n anochel i ni golli pob cymuned Gymraeg erbyn y flwyddyn 2020 os dilynwn esiampl Steffan a gweithredu'n gadarn.Bydd yr ymprydiau a'r ymgyrch o fynd heb rywbeth o bwys yn ystod y Steddfod yn dod i ben ar y nodyn gobeithiol hwn hefyd.Hyd nes ei ymddangosiad llys ar y 12ed Awst, bydd Steffan dan hwyrgloch o 10pm bob nos. Diolchwn i Heddlu'r Gogledd am ganiatau estyniad tan 1am yn ei hwyrgloch Nos Wener er mwyn caniatau iddo gymryd rhan yn y gig.
Daily Post - Awst 5ed 2005Bailed rapper gets gig ok from policeNORTH Wales Police extended Cymdeithas yr Iaith (Welsh Language Society) chairman Steffan Cravos' bail so he can take part in an Eisteddfod gig tonight.Cravos is subject to a 10pm curfew after being arrested by police early Wednesday. He was charged with criminal damage before being released on bail pending a court appearance on August 12. As rapper MC Sleifar, Cravos will headline Cymdeithas yr Iaith's gig , police agreed to extend the curfew.Cymdeithas yr Iaith spokesman Ffred Ffransis said: "We are grateful to the police for this gesture which allows Steffan to take part in the gig."