Arestio chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg

cyf cyffYn dilyn Cyfarfod Cyffredinol a Rali Genedlaethol lwyddiannus yn Aberystwyth, gyda dros 100 o bobl yn bresennol, cafodd chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg eu harestio. Yn gyntaf fe arestiwyd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Rhys Llwyd yr Is- Gadeirydd Ymgyrchu am beintio'r slogan 'MESUR IAITH CYFLAWN' ar wal adeilad newydd y Cynulliad Cenedlaethol yn Aberystwyth. Yna wrth i hanner cant o aelodau ddangos eu cefnogaeth drwy arwyddo eu henwau ar y wal fe arestiwyd pedwar person arall sef Bethan Williams arweinydd ymgyrch Deddf Iaith y Gymdeithas, Siriol Teifi, Cadeirydd Cell Pantycelyn Cymdeithas yr iaith Gymraeg a dau fachgen yn eu harddegau.

Ynghyd a llofnodi eu henwau ar y wal i ddangos cefnogaeth i Rhys a Menna yr oedd y protestwyr yn dal cerdyn melyn yn yr awyr fel dyfarnydd peldroed, gan fynnu mai dyma rybudd olaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i Lywodraeth y Cynulliad i gyflwyn Mesur Iaith cynhwysfawr.Mae Menna Machreth a Rhys Llwyd a'r pedwar arall lofnododd eu henwau ar y wal yn dal yn swyddfa'r heddlu.Teimlai llawer fod yr heddlu wedi gorymateb yn ystod y brotest, ond ni fydd hyn yn amharu ar benderfyniad y Gymdeithas i ddyfalbarhau gyda'r ymgyrch dros Deddf Iaith.gweithred1cyfcyff2008.JPGgweithred2cyfcyff2008.JPGgweithred3cyfcyff2008.JPG(Diolch i Angharad Clwyd am y lluniau)1protest-cyfcyff08.jpg2protest-cyfcyff08.jpg3protest-cyfcyff08.jpg4protest-cyfcyff08.jpg5protest-cyfcyff08.jpg6protest-cyfcyff08.jpg7protest-cyfcyff08.jpg8protest-cyfcyff08.jpg9protest-cyfcyff08.jpg10protest-cyfcyff08.jpg11protest-cyfcyff08.jpg12protest-cyfcyff08.jpg13protest-cyfcyff08.jpg(Diolch i Aled Griffiths am y lluniau)