Arweinydd Cyngor Sir i Annerch Rali Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi y bydd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Darren Price, yn annerch y rali a gynhelir ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol bythefnos i heddiw i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo i reoli'r farchnad agored mewn tai. Cynhelir y rali am 2pm Mercher 9ed Awst tu allan i uned Cymdeithas yr Iaith ar y Maes a bydd gorymdaith draw at uned Llywodraeth Cymru lle bydd y Cynghorydd Price ac eraill yn siarad.

 

Wrth gyhoeddi'r newydd, dywed Ffred Ffransis o weithgor Nid yw Cymru ar Werth y Gymdeithas "Yr ydym yn arbennig o falch y bydd arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin gyda ni gan y bydd hyn yn pwysleisio fod methiant pobl leol i allu fforddio prynu na rhentu tai yn eu cymunedau lleol yn broblem ehangach o lawer na Gwynedd yn unig. Dyma adeg dyngedfennol yn yr ymgyrch am Ddeddf Eiddo i reoli'r farchnad agored gan y gallen ni redeg allan o amser i gyflwyno deddfwriaeth yn y tymor seneddol hwn. Does dal dim arwydd o amserlen Papur Gwyn hir-ddisgwyliedig ar y mater, a byddwn yn gofyn i bobl ar y Maes i anfon at y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, yn galw am gyflymu'r broses gan na all ein cymunedau aros yn hirach."