Daeth dros 200 o aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith i brotest ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala heddiw, lle cyflwynwyd ddeiseb brys wedi'i arwyddo gan gefnogwyr yn yr wyl. Byrdwn y neges oedd yr angen i brysuro gyda'r gwaith o drosglwyddo pwerau deddfu dros y Gymraeg i Gymru. Fe wnaeth Big Ben deithio yr holl ffordd o Lundain i gymryd rhan yn yr orymdaith o uned Cymdeithas yr Iaith i uned llywodraeth y Cynulliad.Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:''Rydym yn cyflwyno ein neges yn hollol glir i'r Llywodraeth, sef bod amser yn mynd yn brin ac felly bod angen trosglwyddo'r holl bwerau deddfu dros y Gymraeg o San Steffan i Gymru heb ragor o oedi. Mae amser trafod wedi dod i ben, mae angen i ni weld y Llywodraeth yn gweithredu er mwyn i ni gael hawliau llawn i ddefnyddio'r Gymraeg.''
Ychwanegodd Menna Machreth:''Rydyn ni wedi bod yn casglu enwau trwy'r wythnos ac mae pob un sydd wedi arwyddo'r ddeiseb yn cytuno fod angen gweithredu ym maes y Gymraeg. Ein gobaith yw y bydd y Llywodraeth yn gwrando ar ddyheadau pobl Cymru.''Tu allan i uned llywodraeth y Cynulliad, cafwyd araith gan Sian Howys o Gymdeithas yr Iaith. a gosodwyd sticeri ar furiau a ffenestri uned y llywodraeth yn nodi eu bod yn rhwystro mynediad pobl Cymru i'r Gymraeg, gan fod y Llywodraeth yn gwrthod mynnu bod y pwerau llawn dros y Gymraeg yn cael eu trosglwyddo i Gymru.Pwyswch ar y llun isod i weld mwy o luniau o'r Brotest (Lluniau gan Bryn Salisbury)