Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith 2006

logo_adloniant_tafod.jpg Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, prif drefnwyr gigiau Cymraeg, wedi cyhoeddi cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2006 gyda’r ffeinal i’w chynnal yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe fis Awst, a’r pecyn gwobrau gorau eto i’r enillwyr lwcus.

Pwyswch yma er mwyn lawrlwytho'r ffurflen gofrestru (pdf)Nôd y gystadleuaeth yw dod o hyd i a rhoi llwyfan i dalentau newydd Cymraeg a rhoi hwb ymlaen iddynt fod yn llwyddianus yn y Sin Roc Gymraeg am flynyddoedd i ddod. Yn hyn o beth mae Brwydr y Bandiau wedi bod yn hynod effeithiol yn y gorffennol gyda Java a Pala – cyd-enillwyr yng Nghasnewydd 2004, a’r Derwyddon – buddugwyr 2005 , wedi parhau i gigio’n gyson ers eu llwyddiant tra fo Mattoidz – ennillwyr eisteddfod Ty Ddewi 2002 bellach yn un o fandiau amlycaf a mwyaf poblogaidd Cymru.Er mai bandiau ifanc sydd yn draddodiadol wedi cystadlu mae’r gystadleuaeth yn agored i bob oedran. Yr unig amodau yw fod y band yn gallu cynnal set 15 munud o ganeuon Cymraeg gwreiddiol ac nad ydynt eisioes wedi recordio unrhyw gynyrch. Ni all band ychwaith gystadlu os wnaethant ymddangos yn ffeinal llynedd, er fod croeso i rai na aeth ym mhellach na’r rhagbrofion gystadlu eto.Bydd enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2006 yn cael cyfle i:

  • Chwarae ar Sadwrn ola'r Steddfod Genedlaethol, gan gefnogi rhai o brif fandiau Cymru
  • Recordio sesiwn ar gyfer C2 ar Radio Cymru
  • Sesiwn recordio a chyfle i ryddhau deunydd ar label Rasal
  • Cyfres o gigs wedi'u trefnu gan Gymdeithas yr iaith mewn gwahanol rannau o Gymru
  • Ffilmio fideo ar gyfer Bandit
  • Poster_ByB_2006.jpgCliciwch ar y llun er mwyn lawrlwytho poster (pdf) ar gyfer argraffuMeddai Owain Schiavone, Swyddog Adloniant y Gymdeithas:‘Un o’r problemau mwyaf sy’n wynebu bandiau ifanc – ac mae yna ddigonedd ohonyn nhw ledled Cymru– ydi gwneud y ‘break-though’ cynta: y gig cynta a’r recordiad cynta. A dyna ydi pwrpas Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith sef rhoi’r cyfle yna i fandiau newydd berfformio ar lwyfan, nid yn unig yn yr Eisteddfod ei hun ond yn ystod y flwyddyn wedyn. Ac wrth gwrs mae’r cyfle i recordio eu deunydd yn rhywbeth y mae pob band sy’n dechrau allan yn breuddwydio amdano a rydan ni yn falch iawn o allu gwireddu hyn ac wrth gwrs ychwanegu at gryfder y Sin Roc Gymraeg yr un pryd. Bandiau ifanc ydi dyfodol cerddoriaeth Gymraeg wedi’r cyfan, a busawn i’n annog unrhywun sydd mewn band i roi cynnig ar y gystadleuaeth.’Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru ydi Mawrth 31ain 2006.Er mwyn cael copi o'r ffurflen gofrestru pwyswch yma (pdf)