Brwydr Ysgol Hermon

Wrth groesawu penderfyniad yr Uchel Lys i ganiatau i rieni Ysgol Hermon wrandawiad llawn o'u hachos yn erbyn cau ysgol y pentre, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar bobl Cymru i gyfrannu at gronfa Ymgyrch Genedlaethol Hermon.

Dywed llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis " Mae holl rym ac arian y Sefydliad yn eu herbyn. Yr unig beth sy'n eu galluogi i frwydro yw cefnogaeth a chyfraniadau gwirfoddol gan Gymry cyffredin sy'n gweld pwysigrwydd Ysgolion Pentre Cymraeg." Mae Hermon yn ysgol fywiog gyda 50 o blant a chefnogaeth y cymunedau lleol. Os llwyddir i gau ysgol o'r fath, yna does dim un ysgol bentre Gymraeg yn ddiogel. Brwydro ar ran llawer y mae rhieni Hermon, a haeddant gefnogaeth hael. "Gwefan yr ymgyrch