Buddugoliaeth Ysgol Carno - gobaith i gymunedau eraill

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu argymhelliad gan bennaeth addysg Cyngor Powys i gadw Ysgol Carno ar agor fel rhan o’i chynlluniau ad-drefnu addysg.

Yn dilyn ymgynghoriad anffurfiol gyda’r gymuned leol, mae adroddiad y Cyng.

Myfanwy Alexander - deiliad portffolio addysg cabinet y cyngor - yn argymell ffederasiwn rhwng Ysgol Carno, Ysgol Llanbrynmair ac Ysgol Glantwymyn, yn lle cau Ysgol Carno.

Dywedodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Hoffwn i longyfarch y gymuned ar eu hymdrechion i gadw’r ysgol ar agor ac am roi gobaith i gymunedau eraill ar draws Cymru. Mae pobl leol yn teimlo yn gryf bod yr ysgol yn bwysig iawn i’r Gymraeg yn yr ardal. Maen nhw wedi ein hysbrydoli ni yn y Gymdeithas wrth i ni gyd-weithio gyda nhw yn lleol, i’r graddau ein bod ni fel mudiad wedi penderfynu cynnal ein rali flynyddol yn y pentref ar Hydref y 5ed eleni. Rydyn ni’n cymryd yn ganiataol y bydd y cabinet y cyngor yn derbyn argymhellion yr adroddiad a fydd yn cael ei drafod yr wythnos nesaf. Y gobaith yw y gall cymunedau ledled Cymru ddysgu o lwyddiant yr ymgyrchwyr yng Ngharno.”